– Senedd Cymru am 4:24 pm ar 10 Tachwedd 2021.
Yr eitem nesaf, dadl Plaid Cymru, pysgodfeydd a dyframaethu.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Pwrpas y ddadl hon yw codi ymwybyddiaeth o ddiwydiant pwysig a fu unwaith yn llewyrchus iawn yng Nghymru, sydd, yn anffodus, wedi bod yn dirywio ers blynyddoedd lawer. Ond, o gael cefnogaeth bwrpasol gan y Llywodraeth, gallai gyfrannu tuag at adfywio ein cymunedau arfordirol ni yn economaidd a chymdeithasol. Mae gennym ni farddoniaeth, caneuon gwerin a siantis môr bendigedig yng Nghymru sy'n mynd yn ôl yn bell iawn, iawn, sydd yn dyst i'r traddodiad morwrol, balch hwn.
Fodd bynnag, gadewch i mi gyflwyno darlun i chi o sefyllfa'r sector erbyn hyn. Yn 2012, cafodd 26,000 tunnell o bysgod eu glanio gan longau o'r Deyrnas Gyfunol ym mhorthladdoedd Cymru. Yn 2016, roedd hyn wedi gostwng i 15,000 o dunelli, ac erbyn 2020, i lawr i 9,600 tunnell, gyda llongau o Wlad Belg yn cyfrif am draean o'r pysgod a ddaliwyd. Yn y flwyddyn honno, dim ond rhyw 4,000—ychydig bach yn fwy na hynny—o dunelli oedd wedi eu dal gan longau o Gymru—llai na hanner y daliad yn y flwyddyn honno. Felly, gellid dod i'r casgliad, yn seiliedig ar y ffigurau hyn, fod ein gweithgaredd pysgota masnachol yn dirywio i'r fath raddau fel ei fod mewn perygl o ddiflannu i ebargofiant. Dyma pam mae angen strategaeth arnom i gefnogi a chreu sector bywiog, cynaliadwy a hyfyw yng Nghymru yn ystod tymor y Senedd hwn.
Lywydd, Deddf Pysgodfeydd y DU 2020 sy'n darparu'r fframwaith ar gyfer polisi pysgota'r DU ar ôl Brexit. Mae'r Ddeddf yn ymestyn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd i gynnwys holl ddyfroedd Cymru, a elwir yn barth Cymru. Felly, yn amlwg, mae hwn yn gyfle euraidd i adfywio'r diwydiant a datblygu strategaeth i'w symud ymlaen. Nawr, ymgynghorodd Llywodraeth flaenorol Cymru ar bolisïau morol a physgodfeydd ar ôl Brexit, ymgynghoriad a elwir yn 'Brexit a'n Moroedd' yn 2019. Mewn datganiad ysgrifenedig i fynd gyda'r crynodeb o'r ymatebion, dywedodd y Gweinidog hyn:
'Rhaid inni ddatblygu polisi cynaliadwy sy’n seiliedig ar ecosystemau ac yn cyd-fynd â phob polisi morol arall.'
Felly, yn amlwg, yn y Senedd flaenorol, roedd ymrwymiad cryf i ddatblygu polisi pysgodfeydd cynaliadwy.
Yn anffodus, o fewn rhaglen lywodraethu'r chweched Senedd hon, does dim unrhyw sôn am bysgodfeydd a dyframaeth o gwbl, fel petai nhw ddim yn bodoli o gwbl. Gallwn ni ond dod i'r casgliad, felly, nad yw'r sector hon yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae strategaeth pysgodfeydd Cymru 2008 a chynllun gweithredu strategol ar gyfer y sector 2013 bellach wedi hen ddyddio.
Efallai y bydd Llywodraeth Cymru am dynnu'n sylw at 'Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru' fel arwydd o gynnydd yn y maes hwn. Iawn, mae'r cynllun yn cynnwys dwy adran benodol ar ddyframaeth a physgodfeydd. Fodd bynnag, dŷn nhw ddim yn strategaethau digon gwahanol gyda digon o ffocws i ysgogi cynnydd sylweddol yn y sector. A dyw'r sector ei hun, yn ddiddorol iawn, yn sicr ddim yn ystyried bod hwn cystal â chael cynllun gweithredu cynhwysfawr.
Mae'n werth nodi bod pwyllgor yr amgylchedd yn y Senedd flaenorol wedi cynhyrchu adroddiad ar effaith Brexit ar bysgodfeydd yng Nghymru yn 2018. Galwodd yr argymhelliad cyntaf yn yr adroddiad ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth uchelgeisiol, gyda ffocws ar dyfu pysgodfeydd yng Nghymru. Er i Lywodraeth Cymru dderbyn yr argymhelliad ar y pryd, y gwir amdani yw taw ychydig iawn sydd wedi'i wneud i gyflawni'r ymrwymiad hwnnw ers hynny. Efallai'n wir y byddai Llywodraeth Cymru eto'n tynnu ein sylw ni at ymgynghoriad 2018, 'Brexit a'n Moroedd', fel dwi wedi'i grybwyll yn barod. Fodd bynnag, er bod rhanddeiliaid wedi buddsoddi cryn dipyn o amser yn ymateb i'r ymgynghoriad, unwaith eto, ychydig sydd wedi digwydd ers hynny.
Nawr, is-adran y môr a physgodfeydd Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am reoli pysgodfeydd morol yn nyfroedd Cymru. Mabwysiadwyd y model cyflawni canolog hwn dros 10 mlynedd yn ôl. Rhagwelwyd y byddai'r model cyflawni cyfunol newydd yn rhoi cyfle i ddefnyddio adnoddau'n well, yn darparu dull cydlynol o reoli pysgodfeydd Cymru ac yn gwella cyfranogiad y diwydiant pysgota yn y broses o wneud penderfyniadau.
Yn anffodus, er gwaethaf yr ymdrechion gorau, ni wireddwyd manteision canfyddedig y model canolog hwn, er bod cyllidebau ac adnoddau dynol o fewn yr is-adran wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y degawd diwethaf. Mae'r adran wedi bod heb strategaeth gyfredol na chynllun mesuradwy i reoli pysgodfeydd yn gydlynol ers 2014. Ac i waethygu'r sefyllfa, ar hyn o bryd nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fecanwaith ymgysylltu'n ffurfiol â rhanddeiliaid gyda'r sector.
Rhaid dweud felly fod yr effeithiau ar y diwydiant pysgota o adael yr Undeb Ewropeaidd, ynghyd ag arafwch wrth ddarparu gwell rheolaeth ar bysgodfeydd, yn gwneud dyfodol pysgota môr yng Nghymru yn hynod o ansicr, sydd yn bryder mawr, wrth gwrs.
Felly, pa fath o uchelgais sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer creu sector bywiog, cynaliadwy a gwydn yn economaidd ar gyfer y dyfodol o ystyried y dirywiad amlwg yn nifer y pysgod sy’n cael eu glanio ym mhorthladdoedd Cymru dros y pum mlynedd diwethaf?
Y gwir amdani yw bod tanfuddsoddiad cronig wedi bod yn y sector dros nifer o flynyddoedd. Ar wahân i fuddsoddiad mewn seilwaith yn nociau pysgod Aberdaugleddau saith mlynedd yn ôl, mae lefel y gefnogaeth ariannol wedi bod yn ofnadwy o isel. Hefyd, mae pryder bod y fflyd o longau sy'n heneiddio o flwyddyn i flwyddyn yn gwegian oherwydd diffyg buddsoddiad.
Gadewch i mi droi yn awr at ddyframaethu. Wrth i'r galw am fwyd môr gynyddu, mae technoleg wedi'i gwneud hi'n bosibl tyfu bwyd mewn dyfroedd morol arfordirol a'r cefnfor agored. Mae dyframaethu'n ddull a ddefnyddir i gynhyrchu bwyd a chynhyrchion masnachol eraill, adfer cynefinoedd ac ailgyflenwi stociau gwyllt, ac ailboblogi rhywogaethau sydd dan fygythiad ac mewn perygl.
Mae'r Gweinidog eisoes wedi nodi cyn toriad yr haf ei bod wedi ymrwymo i gyflawni'r targedau strategol ar gyfer dyframaethu a osodwyd ar gyfer 2013 i 2020. Er enghraifft, pysgod cregyn—y targed oedd dyblu cynhyrchiant o 8,000 tunnell i 16,000 tunnell, ond mae'n amlwg ein bod ymhell islaw'r llinell sylfaen honno hyd yn oed cyn COVID a chyn Brexit.
Yn ddiweddar, rôn i’n rhan o ddirprwyaeth Plaid Cymru a fu ar ymweliad â'r cyfleuster dyframaeth arloesol ym Mhenmon, Ynys Môn, gyda'r Aelod o Ynys Môn, a gweld y cyfleoedd y gall y sector eu cynnig i Gymru. Dyma’r sector bwyd sy’n tyfu gyflymaf ar draws y byd. Mae'r staff yn Mowi Ltd ym Mhenmon wedi torri tir newydd gan ddefnyddio technegau arloesol ar gyfer cynhyrchu rhywogaethau pysgod glanach, gan roi'r ffermydd hyn ar flaen y gad yn Ewrop.
Lywydd, mae gan Gymru—o, mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd—mae gan Gymru'r sylfaen wybodaeth a'r cyfalaf naturiol posibl i ddatblygu'r sector dyframaethu ymhellach, ond mae angen i Lywodraeth Cymru ailalinio a chanolbwyntio polisi ac adnoddau ar y sector mewn ffordd fwy cydgysylltiedig ac integredig. Gall y sector dyframaethu gefnogi'r gwaith o greu swyddi, arloesi, cyfrannu at wasanaethau ecosystemau ar sail natur a hawlio'i le yng nghenhadaeth Cymru i ddod yn wlad sy'n cynhyrchu bwyd cynaliadwy.
Felly, gyda rhagolygon cyffrous ar gyfer sector sy'n tyfu’n gyflym, mae angen inni wybod beth yw strategaeth y Llywodraeth yn y dyfodol i gefnogi dyframaeth a physgota môr yng Nghymru, ac, yn wir, beth yw ei strategaeth ar gyfer manteisio ar y potensial i dyfu’r diwydiant yma yng Nghymru ar gyfer y dyfodol. Diolch.
Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod dros Arfon am gyflwyno'r cynnig hwn y prynhawn yma ar ran grŵp Plaid Cymru. Yr wythnos diwethaf, codais yma i hyrwyddo'r angen am gydweithredu, partneriaeth a gwaith tîm wrth fynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r wlad hon. Ac yn wir, heddiw, rwyf fi a fy nghyd-Aelodau ymhlith y Ceidwadwyr Cymreig yma yn arddel yr un ymagwedd gydweithredol. Dyna pam y byddwn yn cefnogi'r cynnig hwn y prynhawn yma.
Rwy’n falch hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod gwerth cynnig gan wrthblaid, ac rwy'n gobeithio y bydd y ddadl y prynhawn yma'n rhoi cipolwg o leiaf ar yr hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio ar y cyd.
Nawr, fel y crybwyllodd yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn gwbl gywir yn ei araith agoriadol, mae Cymru'n meddu ar gyfoeth o adnoddau, potensial a chyfleoedd, a gellir targedu a defnyddio pob un ohonynt i gefnogi a thyfu ein diwydiant dyframaethu a physgodfeydd. Rwyf hefyd yn falch fod yr Aelod wedi tynnu sylw at y cyfleoedd newydd i bysgodfeydd Cymru yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd; fodd bynnag, er mwyn gallu teimlo'r manteision hynny, mae'n gwbl briodol fod Llywodraeth Cymru'n gweithio gydag ystod eang o randdeiliaid allweddol y diwydiant, o'r sector cyhoeddus a'r sector preifat, i ddatblygu strategaeth pysgodfeydd a dyframaethu sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd, buddsoddiad a diwydiant.
Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cofio fy nghwestiwn cyntaf un iddi ar faterion gwledig, mewn perthynas â datganiad a wnaeth mewn digwyddiad yng Nghaerdydd fel rhan o'r Wythnos Bwyd Môr yn 2016. Yn y digwyddiad hwnnw, cyhoeddodd fwriad Llywodraeth Cymru i ddyblu cynhyrchiant dyframaethu morol erbyn 2020. Ers hynny, nid yw cynllun morol 2019 Llywodraeth Cymru na'r adroddiad dilynol yn 2020 wedi crybwyll na mynd i’r afael â’r nod hwn, ac, yn ei hateb i mi, nododd y materion sydd ynghlwm wrth gyrraedd ein targed allforio bwyd môr. Er fy mod yn dal i bryderu cryn dipyn ynglŷn â hyn, ac yn deall y materion a gododd y Gweinidog mewn perthynas â'r materion allforio ar ddechrau'r flwyddyn, rwy'n hyderus y bydd y cynnig hwn heddiw'n sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu ei hymdrechion i ymroi i sicrhau bod y targed hwn yn cael ei gyrraedd.
Ond gadewch inni beidio ag anghofio y bydd manteision diwydiant pysgodfeydd a dyframaethu cryf a chynaliadwy yn cyrraedd pob cornel o Gymru. Yn fy etholaeth i, er enghraifft, mae'r cwmni wystrys yr Iwerydd yn Angle yn arwain y ffordd drwy ddatblygu dulliau adfer ar gyfer wystrys brodorol sir Benfro. Yn hytrach na dim ond eu tynnu o'r môr, mae Atlantic Edge Oyster, dan arweiniad Dr Andy Woolmer a chyda chymorth Ben Cutting, yn gweithio i adfer niferoedd wystrys oddi ar arfordir sir Benfro, ac yn ogystal â chael gwared ar ormodedd o faethynnau o'n dyfroedd, mae hyn hefyd yn darparu cynefin gwell ar gyfer ecosystem iachach i fywyd morol arall. Mae'r wystrys hefyd yn cael eu gwerthu mewn bwytai ledled Cymru, sydd unwaith eto'n dangos eu budd i'n heconomi.
Yn wir, ni ddylem ychwaith fychanu'r rhan y gall dyframaethu ei chwarae yn helpu i gyflawni ystod eang o nodau a thargedau cynaliadwyedd. Mae ymchwilwyr ym mhrifysgol Queen's, Belfast yn datblygu treial tair blynedd i geisio gwerthuso'r defnydd o wymon y DU i helpu i leihau allyriadau methan mewn gwartheg. Fodd bynnag, yn ogystal â lleihau allyriadau methan—ac rydym wedi clywed llawer am hyn yn sgil y COP26 dros y pythefnos diwethaf—yn ôl adroddiadau cynnar gall bwyta'r gwymon wella iechyd gwartheg a gwella ansawdd y cig a'r llaeth y maent yn ei gynhyrchu. Mae'n brosiect arloesol arall heb gyfyngiad ar ei ddefnydd yn y gadwyn gyflenwi, ac mae'n dod ag ystyr newydd iawn i'r ymadrodd surf and turf.
Ac rwyf wedi gweld manteision prosiectau tebyg yn uniongyrchol, wrth imi ymuno â fy nghyd-Aelod yr Aelod dros Breseli Sir Benfro ar ymweliad â Câr-y-Môr, fferm wymon a physgod cregyn fasnachol gyntaf Cymru. Mae'r prosiect ffermio heb ychwanegion hwn yn defnyddio mwynau naturiol a maethynnau'r môr Celtaidd, gan gael gwared ar yr angen am wrtaith a phlaladdwyr, ac mae hefyd yn gwella ein hamgylchedd arfordirol, yn hybu bioamrywiaeth ddyfrol ac yn ysgogi twf swyddi, gan gynnig llwybr uniongyrchol i bobl ifanc i mewn i sector dyframaeth gwirioneddol integredig yng Nghymru. Er bod gan lawer o'r gwymon sy'n cael ei dyfu gyrchfan a gwerth masnachol penodol, nid yw peth o'r gwymon sy'n cael ei dyfu yn addas ar gyfer y farchnad fanwerthu, ond mae'n gwbl addas fel ychwanegyn mewn bwyd gwartheg. Nid oes yn rhaid inni edrych ymhellach na'n dyfroedd naturiol am syniadau addawol a phrosiectau arloesol. Fodd bynnag, mae angen cymorth Llywodraeth Cymru arnynt, yn hytrach na'u bod yn ôl-ystyriaeth mewn polisïau.
Rwy’n cymeradwyo Plaid Cymru am gyflwyno'r cynnig hwn heddiw. Dylem roi ein cefnogaeth lawn i'n diwydiant pysgota a dyframaethu, a dylem fod yn datblygu polisi ag iddo fanteision pellgyrhaeddol, diamheuol i ystod gyfan o sectorau eraill, yn economaidd ac yn amgylcheddol. Diolch yn fawr.
Mi oedden ni ar bwrpas yn rhoi sgôp eithaf eang i'r cynnig yma heddiw achos rydyn ni'n credu bod yna sgôp eang i ddod â budd i Gymru drwy gael strategaeth glir ac uchelgeisiol, wedi ei chefnogi'n ariannol yn iawn, er mwyn datblygu pysgodfeydd a'r diwydiant pysgod a physgota yn gyffredinol. Ac mi allai'r budd ddod ar sawl ffurf—budd economaidd yn sicr yn gyntaf o ran cynhyrchu incwm, dod â buddsoddiad i mewn a chreu swyddi ac ati. Roedd Cefin yn sôn yn benodol am botensial aquaculture. Mae'r potensial i ddatblygu ffermio pysgod ar y tir yn enfawr. Mae'r arbenigedd sydd y tu ôl i ddatblygiadau y clywsom ni'n cael eu crybwyll ym Mhenmon yn Ynys Môn yn arbenigedd a allai arwain at ddatblygiadau eraill—ffermio pysgod i'w bwyta. Ffermio pysgod glanhau maen nhw ym Mhenmon ar hyn o bryd, sy'n rhan o'r broses o bysgota eog yn gynaliadwy, ond mi allai'r un arbenigedd ddatblygu mewn ffermio pysgod i'w bwyta hefyd.
Mi fues i mewn darlith y noson o'r blaen ar botensial ffermio'r cimwch pigog—dwi wedi dysgu lot am y cimwch pigog yr wythnos yma. Mae'r gwaith yn digwydd yng Nghymru rŵan i ddatblygu'r arbenigedd i ffermio hwnnw'n fasnachol, ond mae'r datblygwyr yn bwriadu mynd â'r arbenigedd yna efo nhw i Ffrainc neu'r Eidal, oherwydd diffyg hyder y buasen nhw'n cael cefnogaeth Llywodraeth Cymru. Ydy'r Gweinidog wir yn barod i adael i'r arbenigedd yna adael Cymru, ynteu ydy hi eisiau gweld hwn yn rhywbeth y gallwn ni fuddsoddi ynddo fo? I roi syniad ichi, maen nhw wedi cyhoeddi eleni fuddsoddiad allai arwain at ddiwydiant newydd gwerth $160 miliwn yn Awstralia—$160 miliwn yn flynyddol—i ffermio cimwch. Ydyn ni eisiau hynny yn fan hyn ynteu a ydyn ni am adael i hynny lithro o'n dwylo ni? A gyda llaw, gaf i estyn gwahoddiad i'r Gweinidog i ddod i Benmon i weld y gwaith rhagorol sy'n digwydd yno?
Mae yna fudd cymunedol hefyd, nid dim ond drwy greu hyfywedd cymunedol mewn ardaloedd arfordirol trwy greu swyddi mewn datblygiadau fel yna, neu wneud y diwydiant sydd yna'n barod yn fwy cynaliadwy a'i helpu fo i dyfu, ond mae yna fodd yma i atgyfnerthu ein treftadaeth forwrol ni, sydd o bosibl ddim mor ddwfn ag y mae o mewn ardaloedd o Gernyw neu'r Alban, ond mae o yno, mae o'n bwysig, yn cynnwys mewn rhannau o fy etholaeth i. Mae hyn yn rhan o'r apêl a beth dwi, Cefin ac eraill wedi bod yn galw amdano fo drwy ofyn am gefnogaeth y Llywodraeth i raglen catch and release ar gyfer tiwna bluefin yn ddiweddar, rhywbeth sy'n mynd i fod yn digwydd yn nyfroedd gweddill yr ynysoedd yma, ond nid Cymru. Ac rydyn ni'n colli cyfle yn y fan honno, a dwi ddim yn deall yn iawn pam mae'r Llywodraeth yn methu â chroesawu hynny fel rhywbeth fyddai'n gam amgylcheddol gwerthfawr ac yn rhywbeth allai ddod â budd i'n cymunedau arfordirol ni.
I gloi, rydyn ni angen strategaeth, fel rydyn ni wedi ei glywed. Mae fy etholwyr i, er enghraifft yn y sector cregyn gleision, wedi bod yn sgrechian am strategaeth ers blynyddoedd, yn chwilio am fuddsoddiad a chefnogaeth ar gyfer prosesu'r cregyn gleision, er enghraifft. Mi oedd yr alwad honno am strategaeth yn gryf cyn inni adael yr Undeb Ewropeaidd, ac wrth gwrs mae o'n fwy pwysig byth rŵan ar ôl i'w diwydiant nhw, eu sector nhw, gael ei chwalu yn dilyn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ond mi gafodd, fel rydyn ni wedi clywed, strategaeth ei lansio nôl yn niwedd 2016. Mi oedd yna addewid am ychydig, ond mi ddaeth hynny i stop. Roedd yna dargedu wedi digwydd, â thargedau'n cael eu gosod ar gyfer tŵf sylweddol yn y sector, ond heb gael strategaeth sydd yn weithredol, heb greu capasiti, mae gen i ofn, yn adran pysgodfeydd Llywodraeth Cymru, heb eglurder ar gyllid—a dwi'n meddwl mai gwael iawn oedd ein profiad ni o ran sut roedd cyllid Ewropeaidd yn cael ei wario yma, er enghraifft—a heb engagement byw a brwdfrydig y Gweinidog ei hun, fydd gennym ni ddim sector ar ôl i'w dyfu, dwi'n ofni.
Rwy'n croesawu'r cynnig pwysig i’w drafod heddiw gan Siân Gwenllian, gan fod ein cymunedau arfordirol yn darparu cyfleoedd hanfodol ar gyfer hyfforddiant, cyflogaeth ac adfer cynefinoedd morol. A chan fod Rhun wedi sôn am gregyn gleision, rwyf am ganmol cregyn gleision Conwy, y gorau yn y byd—busnes a sefydlwyd dros 100 mlynedd yn ôl. Mae 'Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru', sy'n gynllun 20 mlynedd, yn nodi amcan sector-benodol ar gyfer pysgodfeydd a dyframaethu, sef cefnogi a diogelu sector pysgota cynaliadwy, amrywiol a phroffidiol, gan gynnwys hyrwyddo pysgodfeydd cynaliadwy a sicrhau'r gwerth economaidd mwyaf i bysgod sy'n cael eu dal fel cyflenwad o brotein cynaliadwy.
Ond er bod ymrwymiad i ddiogelu ein pysgodfeydd yn ganmoladwy, mae'r diffyg camau wedi'u targedu a roddwyd ar waith drwy ddeddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru yn syfrdanol. Yn y bumed Senedd, bu'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn gwthio'n gyson am Fil pysgodfeydd Cymru, Bil yr ymrwymodd y Gweinidog i'w gyflwyno yn y chweched Senedd. Fodd bynnag, nid yw wedi'i gynnwys yn y rhaglen lywodraethu. Yn yr un modd, wrth ymateb i ddadl fer ar ddyfodol pysgota morol ar 24 Chwefror, dywedodd y Gweinidog y bydd polisi Cymru yn y dyfodol
'wedi'i gynllunio gyda rhanddeiliaid i adlewyrchu anghenion sector pysgodfeydd modern Cymru', a phwysleisiodd y bydd cydgynhyrchu gyda rhanddeiliaid yn egwyddor graidd. Fodd bynnag, yn dilyn fy nghwestiynau yng nghyfarfod y pwyllgor ar 11 Mawrth, dywedodd Cymdeithas Pysgotwyr Cymru wrth y pwyllgor nad oedd wedi cael unrhyw drafodaethau manwl bryd hynny gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â pholisi pysgodfeydd Cymru yn y dyfodol. Clywodd y pwyllgor hefyd fod grŵp cynghori Cymru ar y môr a physgodfeydd Llywodraeth Cymru yn profi heriau a'i fod yn cael ei adolygu ar y pryd. Felly, wrth i'r Gweinidog ymateb i'ch dadl heddiw, Blaid Cymru, byddwn yn falch iawn o gael diweddariad er mwyn creu amserlen ar gyfer Bil o'r fath, a diweddariad i'r Senedd ynglŷn ag a wnaed unrhyw gynnydd gyda'r rhanddeiliaid bellach.
Mae ein pysgodfeydd a'n gweithfeydd dyframaeth yn elfennau hanfodol o strategaeth bwyd Cymru. O grancod gogledd Cymru i gregyn gleision Conwy, unwaith eto, mae cynhyrchwyr bach a chynaliadwy'n darparu ffynonellau hanfodol o brotein ac omega 3 i farchnadoedd ledled ein gwlad. Ond os ydym am gael cymunedau arfordirol cynaliadwy, mae angen integreiddio'r sector bwyd môr yn llawn mewn strategaeth bwyd a diod newydd, gyda phob sector wedi'i alinio. Ni allwn ganiatáu i'r rhaniad rhwng bwyd-amaeth a bwyd môr ein hatal rhag mabwysiadu strategaeth fwyd gyffredinol.
Mae angen rhoi hyn ar waith ochr yn ochr â gwaith gyda rhanddeiliaid i gyflawni strategaeth bysgota newydd ar gyfer Cymru sy'n seiliedig ar yr egwyddor o gymaint â phosibl o gynnyrch cynaliadwy, ac un sy'n gosod dyletswydd gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i gynnal cynaliadwyedd pysgod ar gyfer pob stoc. Gyda fflyd o dros 400 o gychod trwyddedig, sy'n cyflogi 1,193 o bysgotwyr llawnamser a rhan-amser, mae diwydiant bwyd môr Cymru yn bwysig i'n heconomi leol. Rwy'n croesawu'n gynnes y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi sefydlu cronfa bwyd môr gwerth £100 miliwn ar gyfer y DU, sydd wedi helpu i adfywio’r sector pysgodfeydd a bwyd môr, gan fanteisio ar gwota pysgota ychwanegol y DU a dod â thwf economaidd i gymunedau arfordirol. Ond mae angen rhoi camau ar waith yn awr yn y strategaeth bysgota newydd i gydnabod y datblygiadau technolegol a wnaed a'r gwariant ariannol sy'n gysylltiedig ag uwchraddio offer mewn ffordd sy'n hyrwyddo rhinweddau gwyrdd—neu las—y diwydiant. Sbwriel pysgota yw 21 y cant o'r sbwriel a geir ar draethau Cymru, ac felly mae angen cymryd camau i fynd i'r afael â hyn. Dylai hyn gynnwys arian i gefnogi'r defnydd o botiau sy'n cynnwys diangdyllau i leihau pysgota anfwriadol o ganlyniad i offer a adawyd ar ôl neu a gollwyd.
Mae ardal cynllun morol cenedlaethol Cymru yn cynnwys oddeutu 32,000 km sgwâr o fôr a 2,120 km o arfordir. Mae hyn yn fwy o lawer na'n tirfas ac yn rhoi digon o gyfle i hybu swyddi morol a phrentisiaethau newydd, gan gynnwys ym maes dal carbon ac adfer cynefinoedd. Felly, rwy’n erfyn ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau pa gamau y bydd yn eu cymryd ar unwaith i gefnogi ein pysgodfeydd a'n gweithfeydd dyframaeth, fel na fyddwn yn lladd uchelgais ein perchnogion busnesau bach ac yn tanseilio hirhoedledd ein cymunedau arfordirol. Diolch yn fawr, Blaid Cymru, am gyflwyno'r ddadl hon.
Diolch yn fawr iawn, Janet. Mae'r diwydiant pysgota yn un andros o bwysig i'n cymunedau ni yng Nghymru, ac i gymunedau Dwyfor Meirionnydd. Mae gan y sector botensial aruthrol ac mae'n syndod cyson i mi nad ydy'r Llywodraeth yn gwneud mwy i fuddsoddi yn y sector a sicrhau ei hyfywedd. Ces i'r fraint o fynd i bysgota cimychiaid a chrancod efo Sion Williams allan o Borth Colmon dros yr haf, a gweld y cyfraniad rhyfeddol roedd ei waith o yn ei wneud i'r economi leol, ond yn fwy na hynny, i'r gymuned leol, wrth iddo ddarparu bwyd rhagorol o ansawdd, yn iach ac yn llawn protein i gyflenwyr lleol.
Rŵan, mae'r ddadl y prynhawn yma yn galw am ddatblygu polisi pysgodfeydd a dyframaethu ymhellach. Os oes yna un ystadegyn sy'n dangos y gwendid syfrdanol yn y system bresennol a pham bod taer angen polisi llawer cliriach a chryfach, yna mi wnaf i sôn wrthych chi am yr ystadegyn hwnnw. Mi ddaru Cefin ynghynt sôn am faint o bysgod sy'n cael eu glanio ym mhorthladdoedd Cymru, ond o ran y pysgod sy'n cael eu glanio o foroedd Cymru, wyddoch chi fod yna 83,000 tunnell o fwyd yn cael ei lanio o foroedd Cymru—83,000—ac o'r 83,000 yna, fel dywedodd Cefin reit ar ddechrau'r drafodaeth, mae tua 4,000 neu weithiau 8,000 tunnell yn cael ei lanio gan bysgotwyr Cymru? Hynny ydy, mae llai na 10 y cant o gynnyrch moroedd Cymru yn rhoi budd economaidd uniongyrchol i gymunedau Cymru. Dyna ydy'r diffiniad o economi echdynnol. Pa ddiwydiant arall fyddai'r Llywodraeth yn caniatáu i hyn ddigwydd iddo?
Ond mae hefyd yn dangos y potensial aruthrol sydd yna i ddatblygu sector cynhenid, llewyrchus all chwarae rhan ganolog mewn adfywio cymunedau glan morol, gan roi swyddi o ansawdd sydd yn darparu cynnyrch iach a chynaliadwy. Wrth siarad efo pysgotwyr ar hyd a lled Cymru, eu pryder ydy nad oes yna symud ymlaen wedi bod yn y sector ers dros 10 mlynedd. Yr un ydy'r heriau a'r problemau sydd yn wynebu'r sector heddiw a oedd yn ei wynebu 10 mlynedd a rhagor yn ôl.
Ystyriwch reoleiddio pysgodfeydd. Mae yna ddiffyg aruthrol yn y maes yma. Mae pysgotwyr yn cymryd camau rhagweithiol i gasglu data a gwella eu harferion drwy gydweithio efo cyrff cyhoeddus, efo prifysgolion, er mwyn datblygu'r sector, ond dydy hyn ddim yn cael ei adlewyrchu yn unrhyw un o raglenni'r Llywodraeth. Mae'r diwydiant yn galw allan am bolisïau a systemau rheoleiddio cadarn, er mwyn eu galluogi i ddatblygu adnodd cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a chryfhau'r brand Cymreig ac, yn ei dro, cryfhau gwerth y brand hwnnw. Er enghraifft, does yna ddim un rheolaeth gynaeafu ar hyn o bryd. Mi ddylai'r Gweinidog ddod allan efo fi at Sion Williams a mynd o Borth Colmon ar y cwch er mwyn gweld yr arfer da y mae Sion yn ei ddatblygu yno. Roedd unrhyw gimwch oedd o'n ei ddal a oedd yn llawn wyau yn cael ei roi yn ôl yn syth i'r môr. Mae disgwyliad o ran rhoi cimychiaid o dan ryw faint arbennig yn ôl i'r môr, ond does yna ddim cyfyngiad ar faint o gimychiaid mae hawl i'w cymryd o'r môr. Rŵan, chwarae teg i Sion am fod yn bysgotwr cydwybodol, ond eto does dim disgwyliad iddo wneud hyn.
Mae cregyn bylchog nid yn unig yn andros o flasus, ond hefyd yn doreithiog ym mae Ceredigion, ac yn cyfrannu'n sylweddol at y cynnyrch sy'n cael ei lanio gan bysgotwyr Cymru. Tra bod yn rhaid i'r sawl sydd â hawl pysgota cregyn bylchog gael trwydded i wneud hynny, gallai'r pysgotwr ddefnyddio un cwch neu 100 o gychod. Unwaith eto, does yna ddim rheolaeth ar y cyniwair.
Bydd rhai yn cyfeirio at yr ap Catch newydd sydd yn cael ei ddefnyddio i recordio a monitro data pysgod a laniwyd, ac mae hwnnw yn ddatblygiad cyffrous, ond dydy o ddim yn dangos y darlun cyfan, chwaith. Dydy o ddim yn dangos pa bysgod a luchiwyd yn ôl i'r môr, er enghraifft, a fyddai'n galluogi'r awdurdodau i gael darlun cliriach o iechyd ein moroedd a pha gamau sydd angen eu cymryd i sicrhau rheolaeth er lles dyfodol y diwydiant. Mae diffyg rheolaeth, felly, ar gyniwair cynnyrch y môr yn un enghraifft o'r gwendidau sylfaenol sydd yn y system.
Yn elfennol, mae'r drefn bresennol yn methu ein pysgotwyr a'n moroedd. Fel y saif pethau, mae'r cyfan yn cael ei reoli yn uniongyrchol gan y Llywodraeth, ac mae'n berffaith amlwg erbyn hyn nad ydy hynny'n ddigonol, na chwaith yn bosibl i'w weithredu'n llawn. Yn wahanol i'r sector cig coch, lle mae gennych chi Hybu Cig Cymru yn gwneud gwaith ardderchog, neu wrth drafod adnoddau naturiol megis y tir a'r dŵr, mae gennym ni Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoleiddio, does yna ddim un corff allanol yn goruchwylio'r sector pysgodfeydd a dyframaethu. Dyma dwi'n ei glywed yn gyson gan y sector yma, a dyma pam ein bod ni wedi rhoi'r cynnig yma ymlaen heddiw.
Ac yn olaf, jest i'ch hysbysu chi y byddaf i'n sefydlu grŵp trawsbleidiol newydd ar bysgodfeydd a dyframaethu ymhen rhai misoedd, a dyma wahoddiad, felly, i unrhyw Aelod ymuno â'r grŵp yn y flwyddyn newydd, pan fydd o'n cael ei sefydlu. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, Lesley Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n croesawu'r cyfle i drafod y mater pwysig hwn, a diolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau, a bydd y Llywodraeth yn cefnogi’r cynnig gwreiddiol.
Mae pob un ohonom yn dymuno gweld diwydiannau pysgota a dyframaethu yng Nghymru sy'n gynaliadwy ac sy'n ystyriol o'r amgylchedd, yn ogystal â bod yn economaidd hyfyw a ffyniannus. Hoffwn dynnu eich sylw at 'Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru'. Dyma'r cynllun cyntaf o'i fath, ac mae eisoes yn gosod nod polisi strategol lefel uchel ar gyfer pysgodfeydd a dyframaethu. Mae twf cynaliadwy dyframaeth yng Nghymru yn elfen allweddol o'r cynllun ac rydym yn ymwybodol, wrth gwrs, o fuddion amgylcheddol dyframaethu ar lefel droffig isel, fel cynhyrchu pysgod cregyn a gwymon.
Rwyf wedi ymrwymo i ddatblygu'r nodau hyn ymhellach i greu dull gweithredu strategol ar gyfer pysgodfeydd a dyframaethu, yn unol â'r cynnig heddiw. Gwn fod awydd ymhlith rhanddeiliaid i weld strategaeth pysgodfeydd a dyframaethu newydd, ac rwy'n llwyr gydnabod ac yn deall yr awydd hwnnw. Fodd bynnag, mae sawl mater y mae'n rhaid inni eu hystyried wrth ddatblygu ein dull gweithredu strategol. Mae hyn yn cynnwys ein dyletswydd statudol i gynhyrchu datganiad pysgodfeydd ar y cyd a chynlluniau rheoli pysgodfeydd cysylltiedig gyda gweinyddiaethau pysgodfeydd eraill.
Mae pysgodfeydd a dyframaethu hefyd yn chwarae eu rhan mewn nifer o'n polisïau, ein strategaethau ac ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu, gan gynnwys yr adferiad morol glas ehangach, ein strategaethau bwyd a diod, darparu adnoddau naturiol yn gynaliadwy, ac wrth gwrs, yr agenda carbon glas, a'n hymrwymiadau yn Cymru Sero Net. Mae'n bwysig ein bod yn dwyn yr holl elfennau hyn ynghyd wrth ddatblygu ein dull strategol ar gyfer y sector pysgodfeydd.
Rwy'n parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i barhau i weithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu'r dull gweithredu a ddefnyddiwn, a bydd cynaliadwyedd, buddsoddiad ac ymgysylltu â'r diwydiant yn gwbl ganolog i hyn. Ac yn wir, cyfarfûm â rhai ohonynt yr wythnos diwethaf, ac rydym wedi ymrwymo i gyd-reoli ein pysgodfeydd a chydgynhyrchu ein polisïau, a byddaf yn cyfarfod ac yn trafod y dull gweithredu eto gyda rhanddeiliaid y mis nesaf.
O ran ein dull gweithredu mwy hirdymor yn y mater hwn, rydym yn adolygu'r prif grŵp cynghori ar bysgodfeydd i sicrhau ei fod wedi'i gynllunio yn y ffordd orau i'n galluogi i gael dull ystyrlon o ymgysylltu a chyd-reoli. Rwy'n rhagweld y byddaf yn gallu trafod hyn ymhellach gyda'n rhanddeiliaid y mis nesaf.
Rwy'n cydnabod bod y byd wedi newid yn sylweddol ers cynhyrchu 'Cynllun Gweithredu Strategol y Môr a Physgodfeydd Cymru' yn 2013, ac mae angen diweddaru agweddau ar y strategaeth honno. Ond mae'n rhaid imi ddweud yn glir nad wyf yn credu mai'r hyn sydd angen ei wneud yw cynhyrchu dogfen sy'n gorwedd ar silff. Mae'n bwysicach o lawer ein bod yn nodi blaenoriaethau strategol clir a rennir ar gyfer y sector, ac y gallwn weithio ar y cyd i'w cyflawni.
Mae'n bwysig fod fy nghyd-Aelodau'n cydnabod, serch hynny, nad ydym yn aros am strategaeth i gyflawni'r gwaith sy'n ofynnol. Rydym eisoes yn bwrw ymlaen â gwaith ar feysydd a fydd yn allweddol i lywio ein dull o weithredu. Gwyddom, er enghraifft, y bydd pysgodfeydd cynaliadwy yn gonglfaen i'n polisi pysgodfeydd, wedi'u rheoli mewn ffordd addasol gyda phenderfyniadau'n cael eu gwneud ar sail tystiolaeth a'r wyddoniaeth orau sydd ar gael. A dyma pam rwyf wedi blaenoriaethu'r gwaith o ddrafftio Gorchymyn cregyn moch, sydd i fod i ddod i rym cyn diwedd y flwyddyn. Mae hon yn ddeddfwriaeth allweddol a fydd yn darparu templed ar gyfer rheoli rhywogaethau eraill nad ydynt dan gwota.
Mae'r cynnydd rwyf eisoes wedi'i sicrhau yn y gyfran o gwota'r DU yn allweddol i dwf ein diwydiant pysgota. Byddwn yn ystyried y ffordd orau o ddyrannu'r cwota ychwanegol yn y dyfodol. Byddwn yn mynd ar drywydd terfynau dal cynaliadwy yn nhrafodaethau'r gwladwriaethau arfordirol sydd ar y ffordd gyda'r Undeb Ewropeaidd. Gan weithredu o fewn y system reoli cwotâu ddomestig, byddwn yn sicrhau bod gan bysgotwyr Cymru allu i wireddu eu dyheadau datblygiadol yn unol â'r cwota.
Rydym hefyd yn ymwybodol o bwysigrwydd y diogelwch a ddarperir gan Orchmynion pysgodfeydd i lawer o'n busnesau dyframaethu mwy o faint, a dyna pam ein bod yn blaenoriaethu'r gwaith hwn, gan ddechrau gyda'r Gorchymyn yn nwyrain afon Menai.
Bydd angen i gynllun clir ar gyfer buddsoddi yn ein sector bwyd môr fod yn sail i unrhyw strategaeth, a bydd y cymorth a ddarparwn drwy'r hyn a ddaw yn lle cynllun cronfa’r môr a physgodfeydd Ewrop yn hanfodol i'r buddsoddiad hwn. Byddwn yn cynllunio ac yn datblygu cynllun cyllido a fydd yn ein cynorthwyo i gyflawni ein nodau strategol, ac unwaith eto, hoffwn glywed barn rhanddeiliaid ar eu cynllun wrth i ni ei drafod dros yr wythnosau nesaf.
I dawelu meddwl Janet Finch-Saunders, ni fyddai'r Bil pysgodfeydd yn ymddangos yn y rhaglen lywodraethu. Bydd yn ymddangos yn y rhaglen ddeddfwriaethol, ac fel y gwyddoch, tymor pum mlynedd yw hwn, gydag un flwyddyn o'r rhaglen ddeddfwriaethol eisoes wedi'i chytuno.
I grynhoi felly, mae'r Llywodraeth yn fwy na pharod i gefnogi'r cynnig heddiw ac i ailgadarnhau ein hymrwymiad i ddarparu dull strategol ar gyfer pysgodfeydd a dyframaethu, mewn cydweithrediad â'n rhanddeiliaid. Diolch.
Galwaf ar Cefin Campbell i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Yn syml iawn, wrth i fi grynhoi, mae'r cynnig sydd gerbron y prynhawn yma yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid yn y diwydiant i ddatblygu polisi ar gyfer pysgodfeydd a dyframaeth, a hynny wedi'i atgyfnerthu gan strategaeth sydd â chynaliadwyedd, buddsoddiad ac ymgysylltu â'r diwydiant yn ganolog iddo. A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r drafodaeth hynod o ddiddorol a defnyddiol hon, a hynny ar draws y sbectrwm gwleidyddol? Mae'n dda i weld bod pawb yn ymrwymo i gefnogi'r cynnig arbennig hwn.
Mae Sam, wrth gwrs, ar ran y Ceidwadwyr, wedi cyfeirio at nifer o enghreifftiau yn ei ardal e yn sir Benfro o ran yr oyster farming a'r seaweed harvesting roedd e'n cyfeirio atyn nhw, sydd yn dod â photensial newydd i'r diwydiant pysgota môr, ac mae hyn yn rhywbeth mae ymchwil yn dangos mae angen inni wneud mwy ohono, gan fod y potensial yna yn aruthrol.
Taflodd Sam abwyd ataf—esgusodwch y gair mwys—ac rwy'n hapus i'w gymryd, ynglŷn â chyfleoedd yn sgil Brexit. Mae arnaf ofn nad wyf yn cytuno'n llwyr â'i ddadansoddiad, oherwydd yr hyn a welaf ar draws ardaloedd arfordirol y DU a'r diwydiant pysgota yw llanast llwyr ar hyn o bryd. Rwy'n edrych ymlaen at weld strategaeth glir, fel yr amlinellodd y Gweinidog, gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â defnyddio ffordd ymlaen i'r diwydiant o'r llanast hwnnw.
Roedd Rhun yn cefnogi, wrth gwrs, o safbwynt y buddiannau economaidd a chreu swyddi—bod potensial mawr i ddyframaeth, bod gyda ni arbenigedd yng Nghymru sydd yn destun edmygedd ar draws Ewrop gyfan, bod gyda ni bryderon bod yr arbenigedd yna a'r gallu sydd gyda ni yng Nghymru yn mynd i gael ei golli, ac, fel y clywon ni, bod Rhun yn sôn am y posibilrwydd bod llawer o'r potensial yn mynd i gael ei drosglwyddo i Ffrainc neu i'r Eidal. Fe fyddai'n golled aruthrol inni yma yng Nghymru. A rhywbeth rydw i wedi gofyn i'r Gweinidog amdano hefyd: colli cyfle mawr o ran y cynllun catch and release yma o gwmpas y bluefin tuna a thrwyddedu llongau i fanteisio yn economaidd o bysgota am y tiwna hardd yma.
Diolch, Janet, am hyrwyddo cregyn gleision Conwy. Bydd yn rhaid i mi eu blasu ryw ddiwrnod. Rydych yn llygad eich lle yn tynnu sylw at ddiffyg gweithgarwch wedi'i dargedu, ac mae'n syfrdanol nad yw hyn wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf. Roeddech yn gofyn ac yn erfyn ar y Gweinidog i gynnwys y diwydiant wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol, ac mae'r Gweinidog wedi ymateb yn gadarnhaol i hynny, gan ddweud ei bod yn gwneud hynny yn awr. A phwynt arall a wnaed yn dda gan Janet yw'r angen i integreiddio bwyd dyframaeth yn y strategaeth bwyd a diod, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Bydd y buddsoddiad yn y diwydiant hwn yn diogelu cymunedau arfordirol wrth symud ymlaen.
Diolch i Mabon, hefyd, yn synnu, fel nifer ohonom ni, gyda'r diffyg strategaeth, a'r cyfeiriad yn arbennig at yr economi echdynnol yma: unwaith eto, cyfoeth Cymru yn cael ei golli i wledydd y tu hwnt i Gymru. Dim ond rhyw 10 y cant, fel roedd e'n sôn amdano, o bysgotwyr Cymru sydd yn elwa o'r daliadau sydd yn cael eu gwneud ym moroedd Cymru. Mi wnaeth Mabon hefyd gyfeirio at y diffyg rheoleiddio yn y maes, a’r angen i sefydlu corff rheoleiddio, nid yn unig o ran yr elfen yna, ond i hyrwyddo hefyd, tebyg i gorff fel Hybu Cig Cymru.
I gloi, diolch i’r Gweinidog am gefnogi’r cynnig, ac rwy'n cefnogi hefyd ei hymrwymiad hi nawr i ddatblygu strategaeth. Fe wnaeth hi gadarnhau ei bod hi’n siarad â phobl amlwg yn y diwydiant—cyfranddalwyr, ac yn y blaen—ac yn datblygu rhaglen ddeddfwriaethol, ac mae hynny i’w groesawu, i fynd i’r afael â’r sector arbennig yma.
Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, dwi jest am nodi hyn: mae’r Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr ymhell ar y blaen o’i gymharu â Chymru o ran datblygu diwydiant pysgota môr a dyframaeth. Mae’n bryd i ni ddal i fyny gyda’r gwledydd yma a manteisio ar y cyfleoedd mawr sydd gyda ni i elwa yn economaidd o’r môr sydd o’n cwmpas ni yng Nghymru. Felly, os ydy Llywodraeth Cymru eisiau sector ffyniannus yn y dyfodol, yr hyn sydd ei angen yw strategaeth gadarn, ac mi fyddai hyn yn rhoi hwb aruthrol i’r economi o gwmpas arfordir Cymru. Felly, rwy’n erfyn ar y Gweinidog i barhau gyda'r trafodaethau ac rwy’n edrych ymlaen iddi ddod â’r ddeddfwriaeth gerbron y Senedd hon i sicrhau bod y diwydiant yn cael y gefnogaeth haeddiannol. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddaf yn atal y cyfarfod dros dro cyn symud i'r cyfnod pleidleisio.