Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 10 Tachwedd 2021.
Taflodd Sam abwyd ataf—esgusodwch y gair mwys—ac rwy'n hapus i'w gymryd, ynglŷn â chyfleoedd yn sgil Brexit. Mae arnaf ofn nad wyf yn cytuno'n llwyr â'i ddadansoddiad, oherwydd yr hyn a welaf ar draws ardaloedd arfordirol y DU a'r diwydiant pysgota yw llanast llwyr ar hyn o bryd. Rwy'n edrych ymlaen at weld strategaeth glir, fel yr amlinellodd y Gweinidog, gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â defnyddio ffordd ymlaen i'r diwydiant o'r llanast hwnnw.