6. Dadl Plaid Cymru: Pysgodfeydd a dyframaethu

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 10 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 4:55, 10 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n croesawu'r cyfle i drafod y mater pwysig hwn, a diolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau, a bydd y Llywodraeth yn cefnogi’r cynnig gwreiddiol.

Mae pob un ohonom yn dymuno gweld diwydiannau pysgota a dyframaethu yng Nghymru sy'n gynaliadwy ac sy'n ystyriol o'r amgylchedd, yn ogystal â bod yn economaidd hyfyw a ffyniannus. Hoffwn dynnu eich sylw at 'Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru'. Dyma'r cynllun cyntaf o'i fath, ac mae eisoes yn gosod nod polisi strategol lefel uchel ar gyfer pysgodfeydd a dyframaethu. Mae twf cynaliadwy dyframaeth yng Nghymru yn elfen allweddol o'r cynllun ac rydym yn ymwybodol, wrth gwrs, o fuddion amgylcheddol dyframaethu ar lefel droffig isel, fel cynhyrchu pysgod cregyn a gwymon.

Rwyf wedi ymrwymo i ddatblygu'r nodau hyn ymhellach i greu dull gweithredu strategol ar gyfer pysgodfeydd a dyframaethu, yn unol â'r cynnig heddiw. Gwn fod awydd ymhlith rhanddeiliaid i weld strategaeth pysgodfeydd a dyframaethu newydd, ac rwy'n llwyr gydnabod ac yn deall yr awydd hwnnw. Fodd bynnag, mae sawl mater y mae'n rhaid inni eu hystyried wrth ddatblygu ein dull gweithredu strategol. Mae hyn yn cynnwys ein dyletswydd statudol i gynhyrchu datganiad pysgodfeydd ar y cyd a chynlluniau rheoli pysgodfeydd cysylltiedig gyda gweinyddiaethau pysgodfeydd eraill.

Mae pysgodfeydd a dyframaethu hefyd yn chwarae eu rhan mewn nifer o'n polisïau, ein strategaethau ac ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu, gan gynnwys yr adferiad morol glas ehangach, ein strategaethau bwyd a diod, darparu adnoddau naturiol yn gynaliadwy, ac wrth gwrs, yr agenda carbon glas, a'n hymrwymiadau yn Cymru Sero Net. Mae'n bwysig ein bod yn dwyn yr holl elfennau hyn ynghyd wrth ddatblygu ein dull strategol ar gyfer y sector pysgodfeydd.

Rwy'n parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i barhau i weithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu'r dull gweithredu a ddefnyddiwn, a bydd cynaliadwyedd, buddsoddiad ac ymgysylltu â'r diwydiant yn gwbl ganolog i hyn. Ac yn wir, cyfarfûm â rhai ohonynt yr wythnos diwethaf, ac rydym wedi ymrwymo i gyd-reoli ein pysgodfeydd a chydgynhyrchu ein polisïau, a byddaf yn cyfarfod ac yn trafod y dull gweithredu eto gyda rhanddeiliaid y mis nesaf.

O ran ein dull gweithredu mwy hirdymor yn y mater hwn, rydym yn adolygu'r prif grŵp cynghori ar bysgodfeydd i sicrhau ei fod wedi'i gynllunio yn y ffordd orau i'n galluogi i gael dull ystyrlon o ymgysylltu a chyd-reoli. Rwy'n rhagweld y byddaf yn gallu trafod hyn ymhellach gyda'n rhanddeiliaid y mis nesaf.

Rwy'n cydnabod bod y byd wedi newid yn sylweddol ers cynhyrchu 'Cynllun Gweithredu Strategol y Môr a Physgodfeydd Cymru' yn 2013, ac mae angen diweddaru agweddau ar y strategaeth honno. Ond mae'n rhaid imi ddweud yn glir nad wyf yn credu mai'r hyn sydd angen ei wneud yw cynhyrchu dogfen sy'n gorwedd ar silff. Mae'n bwysicach o lawer ein bod yn nodi blaenoriaethau strategol clir a rennir ar gyfer y sector, ac y gallwn weithio ar y cyd i'w cyflawni.

Mae'n bwysig fod fy nghyd-Aelodau'n cydnabod, serch hynny, nad ydym yn aros am strategaeth i gyflawni'r gwaith sy'n ofynnol. Rydym eisoes yn bwrw ymlaen â gwaith ar feysydd a fydd yn allweddol i lywio ein dull o weithredu. Gwyddom, er enghraifft, y bydd pysgodfeydd cynaliadwy yn gonglfaen i'n polisi pysgodfeydd, wedi'u rheoli mewn ffordd addasol gyda phenderfyniadau'n cael eu gwneud ar sail tystiolaeth a'r wyddoniaeth orau sydd ar gael. A dyma pam rwyf wedi blaenoriaethu'r gwaith o ddrafftio Gorchymyn cregyn moch, sydd i fod i ddod i rym cyn diwedd y flwyddyn. Mae hon yn ddeddfwriaeth allweddol a fydd yn darparu templed ar gyfer rheoli rhywogaethau eraill nad ydynt dan gwota.

Mae'r cynnydd rwyf eisoes wedi'i sicrhau yn y gyfran o gwota'r DU yn allweddol i dwf ein diwydiant pysgota. Byddwn yn ystyried y ffordd orau o ddyrannu'r cwota ychwanegol yn y dyfodol. Byddwn yn mynd ar drywydd terfynau dal cynaliadwy yn nhrafodaethau'r gwladwriaethau arfordirol sydd ar y ffordd gyda'r Undeb Ewropeaidd. Gan weithredu o fewn y system reoli cwotâu ddomestig, byddwn yn sicrhau bod gan bysgotwyr Cymru allu i wireddu eu dyheadau datblygiadol yn unol â'r cwota.

Rydym hefyd yn ymwybodol o bwysigrwydd y diogelwch a ddarperir gan Orchmynion pysgodfeydd i lawer o'n busnesau dyframaethu mwy o faint, a dyna pam ein bod yn blaenoriaethu'r gwaith hwn, gan ddechrau gyda'r Gorchymyn yn nwyrain afon Menai.

Bydd angen i gynllun clir ar gyfer buddsoddi yn ein sector bwyd môr fod yn sail i unrhyw strategaeth, a bydd y cymorth a ddarparwn drwy'r hyn a ddaw yn lle cynllun cronfa’r môr a physgodfeydd Ewrop yn hanfodol i'r buddsoddiad hwn. Byddwn yn cynllunio ac yn datblygu cynllun cyllido a fydd yn ein cynorthwyo i gyflawni ein nodau strategol, ac unwaith eto, hoffwn glywed barn rhanddeiliaid ar eu cynllun wrth i ni ei drafod dros yr wythnosau nesaf.

I dawelu meddwl Janet Finch-Saunders, ni fyddai'r Bil pysgodfeydd yn ymddangos yn y rhaglen lywodraethu. Bydd yn ymddangos yn y rhaglen ddeddfwriaethol, ac fel y gwyddoch, tymor pum mlynedd yw hwn, gydag un flwyddyn o'r rhaglen ddeddfwriaethol eisoes wedi'i chytuno.

I grynhoi felly, mae'r Llywodraeth yn fwy na pharod i gefnogi'r cynnig heddiw ac i ailgadarnhau ein hymrwymiad i ddarparu dull strategol ar gyfer pysgodfeydd a dyframaethu, mewn cydweithrediad â'n rhanddeiliaid. Diolch.