Part of QNR – Senedd Cymru ar 10 Tachwedd 2021.
Fy mlaenoriaeth i yw gweld pob plentyn yn cael y dechrau gorau posib mewn bywyd. Mae addysg gynnar yn chwarae rôl bwysig iawn yn hynny, ac mae mynediad at ddarpariaeth feithrin o’r radd flaenaf, sy’n canolbwyntio ar y dysgwr, yn hanfodol i roi’r sylfaen gadarn sydd ei hangen ar bob plentyn i lwyddo.