QNR – Senedd Cymru ar 10 Tachwedd 2021.
Supply teachers employed directly by schools or local authorities are covered by the same statutory provisions as permanent teachers. Staff employed by agencies are not covered by these provisions. However, in Wales, most supply teacher agencies have voluntarily agreed to abide by conditions set out in the National Procurement Service framework agreement.
Fy mlaenoriaeth i yw gweld pob plentyn yn cael y dechrau gorau posib mewn bywyd. Mae addysg gynnar yn chwarae rôl bwysig iawn yn hynny, ac mae mynediad at ddarpariaeth feithrin o’r radd flaenaf, sy’n canolbwyntio ar y dysgwr, yn hanfodol i roi’r sylfaen gadarn sydd ei hangen ar bob plentyn i lwyddo.
Rydym ni’n cynnig grantiau i amrywiol sefydliadau yn yr ardal i hyrwyddo’r Gymraeg, er enghraifft y mentrau iaith. Rydym yn gweithio’n agos gyda’r awdurdodau lleol ar eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg newydd hefyd i wneud yn siŵr bod pob cyfle i blant yr ardal gael addysg cyfrwng Cymraeg.
Rydym wrthi’n datblygu cynllun 10-mlynedd a fydd yn amlinellu’r camau y byddwn yn eu cymryd i gynyddu nifer yr athrawon Cymraeg a chyfrwng Cymraeg ac i ddatblygu sgiliau iaith ymarferwyr. Bydd y cyfnod 10-mlynedd hwn yn cyd-fynd â'r cylch 10-mlynedd ar gyfer y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg newydd.