Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 16 Tachwedd 2021.
Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am hynna. Mae'r cymysgedd gwenwynig o Brexit ac anallu a chamreolaeth economaidd y Torïaid yn ergyd drom i deuluoedd. Rwy'n gweld hynny bob dydd ym Mlaenau Gwent. Rwy'n siŵr y bydd Aelodau ar draws y Siambr gyfan yn gweld yr effaith ar deuluoedd gwirionedd, pobl wirioneddol, bywydau gwirioneddol. Rydym ni'n gweld costau ynni cynyddol, costau bwyd yn cynyddu, chwyddiant ar draws holl gyllideb yr aelwyd, ac rydym ni'n gweld toriadau i gredyd cynhwysol yn ergyd fwyaf i'r tlotaf yn ein plith, ond dyna a allwch ei ddisgwyl gan Lywodraeth Dorïaidd. Prif Weinidog, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i gamu i mewn a helpu i gefnogi teuluoedd ledled Cymru sy'n ei chael hi'n anodd o ganlyniad i'r anallu Torïaidd hwn?