Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 16 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:55, 16 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, hoffwn godi gyda chi y canlyniadau ofnadwy y mae ymgais Llywodraeth San Steffan i sicrhau Brexit caled yn dechrau eu cael ar ein safonau byw ni yma yng Nghymru ac ar draws yr ynysoedd hyn, a gofyn beth allai eich Llywodraeth chi, mewn cydweithrediad â'r gweinyddiaethau datganoledig eraill, ei wneud i berswadio'r Llywodraeth druenus hon yn Llundain i newid trywydd. Yn ei rhagolygon economaidd a chyllidol fis diwethaf, daeth y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol i'r casgliad, o ganlyniad i Brexit caled, y bydd masnach rhwng y DU a'r UE 15 y cant yn is na phe baem ni wedi aros yn yr UE. Mae hynny ddwywaith yr amcangyfrif o gostau hirdymor COVID. Mae'n cyfateb i £80 biliwn y flwyddyn, mwy na phedair gwaith cyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru. Yn wir, mae tystiolaeth gerbron Pwyllgor Materion Ewropeaidd Tŷ'r Arglwyddi yr wythnos hon wedi nodi ei fod yn ostyngiad o 25 y cant mewn masnach ers 2015 mewn gwirionedd. Yn anochel, bydd hyn yn effeithio ar Gymru yn fwy na mwyafrif y rhannau eraill o'r DU, o gofio dibyniaeth gymharol uwch ein heconomi ar weithgynhyrchu ac amaethyddiaeth, ac felly masnach gyda'r UE. Beth yw dull strategol Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â'r broblem hirdymor gynyddol hon?