Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 16 Tachwedd 2021.
Hoffwn ddiolch i arweinydd Plaid Cymru am y cwestiwn yna. Rwy'n credu bod y pwynt a wnaeth yn werth ei ailadrodd, Llywydd, onid yw, fod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, cynghorwyr y Llywodraeth ei hun, yn y cyfnod cyn y gyllideb bythefnos yn ôl, wedi dod i'r casgliad y byddai effaith Brexit o ran crebachu economi'r DU ddwywaith maint y pandemig byd-eang. Ac er bod y pandemig byd-eang yn rhywbeth y gallwn ni adfer ar ei ôl, mae effaith Brexit wedi ei llunio yn y cytundeb a wnaeth Prif Weinidog y DU—cytundeb heb, fel y byddem ni wedi dymuno ei weld, berthynas economaidd â'r Undeb Ewropeaidd a mynediad at y farchnad sengl, undeb tollau, i'w gefnogi. A'r canlyniad yw y bydd pobl yng Nghymru yn dlotach yn barhaol—yn barhaol—o ganlyniad i'r fargen a darwyd gan Brif Weinidog y DU. Ac rydym ni'n ei weld, fel y dywedodd arweinydd Plaid Cymru, ar draws ystod economi Cymru. Rydym ni'n ei weld yn y sector cartrefi gofal, lle nad ydym yn gallu recriwtio pobl mwyach a oedd yn gwneud gwaith mor werthfawr yma yng Nghymru. Rydym ni'n ei weld yn y prinder gyrwyr cerbydau nwyddau trwm, sy'n ffenomenon ledled y DU a lle mae'r mesurau tila a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU yn cael effaith ddibwys ar y gyfres honno o anawsterau. Mae gennym ni ddiwydiant gweithgynhyrchu yng Nghymru nad yw'n gallu gweithredu i'w gryfder llawn oherwydd tagfeydd yn y gadwyn gyflenwi, oherwydd nad yw masnach yn llifo gyda'n cymdogion agosaf a phwysicaf heb rwystrau mwyach.
Llywydd, rydym ni'n mynd i'r afael â'r sefyllfa fel Llywodraeth Cymru mewn dwy ffordd benodol. Ceir y problemau penodol sy'n cael eu hachosi ym mhorthladdoedd Cymru, yng Nghaergybi ac yn sir Benfro, gyda masnach wedi gostwng ac anawsterau newydd ar ei llwybr. Ac yn hynny o beth rydym ni'n ceisio perswadio Llywodraeth y DU i wneud y pethau a fyddai'n caniatáu i'r bont dir, y ffordd fwyaf effeithiol o gludo nwyddau rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon a'r DU ac ymlaen i Ewrop, wneud i honno weithredu eto fel yr oedd cyn i'w chytundeb gael ei daro. Ac yna, yn ehangach, rydym ni'n gweithio gydag eraill, rydym ni'n gweithio gyda'n cydweithwyr yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, i geisio rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i gynnal cysylltiadau â'n partneriaid masnachu pwysicaf ar sail parch at ei gilydd, ar y sail, os oes anawsterau mewn cytundebau y mae angen eu datrys, eich bod chi'n dod o amgylch y bwrdd, rydych chi'n gweld y sefyllfa o safbwynt y person arall yn ogystal â'ch safbwynt chi eich hun, ac yna rydych chi'n cyrraedd fformiwla sy'n arwain at welliant. Yr hyn nad ydych chi'n ei wneud yw mynd i'r afael â'r sefyllfa fel y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud, lle mae popeth yn ddadl, lle mae popeth yn gyfle i ffraeo, lle mae popeth, fel y mae'n ymddangos i mi, yn gyfle i wneud sefyllfa anodd hyd yn oed yn waeth.