Y Cyflog Byw Go Iawn

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 16 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:05, 16 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n diolch i Mike Hedges am y cwestiwn yna, Llywydd. Yn ôl y Sefydliad Cyflog Byw, yn 2021, 82.1 y cant oedd cyfran y swyddi cyflogeion yng Nghymru a oedd yn cael o leiaf y cyflog byw gwirioneddol yn dâl. Bydd cyhoeddiad ddoe o gynnydd i gyfradd yr awr y cyflog byw gwirioneddol o fudd i bron i 13,000 o weithwyr yng Nghymru i 359 o gyflogwyr achrededig.