1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 16 Tachwedd 2021.
3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ganran gweithlu Cymru sy'n ennill cyflog byw go iawn neu'n uwch na hynny? OQ57177
Rwy'n diolch i Mike Hedges am y cwestiwn yna, Llywydd. Yn ôl y Sefydliad Cyflog Byw, yn 2021, 82.1 y cant oedd cyfran y swyddi cyflogeion yng Nghymru a oedd yn cael o leiaf y cyflog byw gwirioneddol yn dâl. Bydd cyhoeddiad ddoe o gynnydd i gyfradd yr awr y cyflog byw gwirioneddol o fudd i bron i 13,000 o weithwyr yng Nghymru i 359 o gyflogwyr achrededig.
A gaf i ddiolch i chi, Prif Weinidog, am eich ateb? Gwneud Cymru yn genedl lle mae pawb yn cael o leiaf y cyflog byw gwirioneddol yn dâl yw un o fy uchelgeisiau i. Er na all Llywodraeth Cymru gyfarwyddo cwmnïau preifat nad ydyn nhw'n cael unrhyw gyllid gan Lywodraeth Cymru, mae ganddyn nhw ddylanwad dros sefydliadau a ariennir yn uniongyrchol a'r rhai sy'n contractio gyda sefydliadau a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r rhai sy'n cael cyllid gan Lywodraeth Cymru. Sut mae Llywodraeth Cymru yn dylanwadu ar gwmnïau o'r fath i dalu'r cyflog byw gwirioneddol, yr wyf i'n credu bod pawb yn ei haeddu?
Rwy'n diolch i Mike Hedges am hynna. Mae'n uchelgais yr amlinellodd yr wyf i'n sicr yn ei rannu, a, Llywydd, y newyddion da oedd bod cam mwy ymlaen o ran nifer y cyflogwyr a gafodd eu hachredu fel rhai a oedd yn talu'r cyflog byw gwirioneddol y llynedd nag ers nifer o flynyddoedd yn y gorffennol, ac mae hynny er gwaethaf yr holl anawsterau y mae cwmnïau wedi eu hwynebu yn y cyfnod hwnnw, a chafwyd achrediadau newydd sylweddol eleni—Canolfan Mileniwm Cymru, Techniquest, y Village Bakery yn Wrecsam, i gyd yn ymuno â'r rhestr gynyddol honno o gyflogwyr sy'n cydnabod nid yn unig yr achos cyfiawnder cymdeithasol a nodwyd gan Mike Hedges, ond yr achos economaidd dros fusnes. Nid enillion enw da yn unig sydd i'w cael o fod yn gyflogwr cyflog byw gwirioneddol; mae'n golygu eich bod chi'n fwy tebygol o recriwtio, eich bod chi'n fwy tebygol o gadw, eich bod chi'n fwy tebygol o fod â phobl sy'n dymuno cyfrannu at lwyddiant y cwmni hwnnw. Ceir dadl fusnes dros y cyflog byw gwirioneddol.
Rwy'n bwriadu ysgrifennu, Llywydd, at bob cyflogwr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, yn dilyn cyhoeddiad ddoe o'r cynnydd i'r cyflog byw gwirioneddol, i'w hannog unwaith eto i ymrwymo i fod ar y daith achredu honno. Rwy'n hapus i gydnabod, neu rwy'n barod i gydnabod o leiaf, y bydd y daith honno yn cymryd mwy o amser i rai cyrff nag eraill; yr hyn nad wyf i'n fodlon ei dderbyn yw nad ydych chi wedi ymrwymo i ddechrau'r daith honno. A phan fyddwch chi yn y broses, yna rydym ni wedi gweld o ddigwyddiadau yma yng Nghaerdydd—lle mae gennym ni fwrdd iechyd sydd wedi ei achredu, cyngor sydd wedi ei achredu, uchelgais i fod yn ddinas cyflog byw gwirioneddol—pan fyddwch chi ar y daith, yna bydd gwynt yn eich hwyliau a fydd yn mynd â chi i'r sefyllfa a nododd Mike Hedges yn ei gwestiwn atodol.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a phrynhawn da, Prif Weinidog. Prif Weinidog, mae eich Llywodraeth yn dweud mai ei nod yw talu'r cyflog byw gwirioneddol i'r rhai sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Er nad oes eglurder o hyd ynghylch pryd y bydd hyn yn digwydd, nid oes amheuaeth bod wir ei angen. Fel yr ydym ni newydd ei drafod, cynyddodd y Sefydliad Cyflog Byw y cyflog byw ac mae bellach yn £9.90 yr awr. Ond mae hyn yn dal yn is na'r lefel y byddem ni yn y Ceidwadwyr Cymreig a'r gwrthbleidiau eraill yn ei thalu i'n staff gofal—rydym ni'n addo £10 yr awr. Prif Weinidog, a ydych chi'n credu ei bod hi'n iawn bod rhywun sy'n casglu troliau mewn archfarchnad yn ennill cymaint â'r rhai sy'n gofalu am ein dinasyddion mwyaf agored i niwed yma yng Nghymru? A ydych chi'n meddwl bod hynny'n iawn?
Wel, rwy'n dychmygu bod yr Aelod yn gefnogwr cryfach o lawer o economi'r farchnad nag y byddwn i, ond mae'n ymddangos ei fod yn barod i ymyrryd ynddo pan fydd yn credu bod hynny o fantais iddo. Roeddwn i'n falch, Llywydd, o weld bod chwe chwmni gofal wedi cyhoeddi ddoe eu bod nhw wedi ymuno â'r rhestr achrededig o gwmnïau yng Nghymru sy'n talu'r cyflog byw gwirioneddol. Gwnaeth ein plaid ni, fy mhlaid i, ymrwymiad yn yr etholiad diwethaf y byddem ni'n talu'r cyflog byw gwirioneddol i ofalwyr yng Nghymru, a dyna fyddwn ni'n ei wneud. Rydym ni bellach wedi derbyn cyngor y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol; cyfarfu wyth gwaith er mwyn llunio'r cyngor hwnnw i ni. Bydd cyfarfod gweinidogol gyda'r fforwm yr wythnos nesaf, a phan fyddwn ni'n cyhoeddi ein cyllideb ddrafft ar 20 Rhagfyr, bydd yr Aelodau yn gweld sut rydym ni'n bwriadu rhoi'r addewid hwnnw ar waith.
Prif Weinidog, rwy'n rhannu uchelgais Mike Hedges, ac yn cytuno â chi o ran budd economaidd y cyflog byw gwirioneddol. Rwyf i wedi fy siomi gan sylwadau'r Ceidwadwyr, bob amser yn ceisio rhoi pobl yn erbyn ei gilydd—mae'n drist ac mae'n gwbl ddiangen.
Prif Weinidog, mae 300 o gyflogwyr cyflog byw achrededig yng Nghymru, gan gynnwys pob un sector addysg uwch yng Nghymru—yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig. Roeddwn i'n falch ddoe gyda chyhoeddiad Dafydd Llywelyn—Comisiynydd Heddlu a Throsedd Plaid Cymru yn Nyfed-Powys—fod Dyfed-Powys yn dilyn y llwybr hwnnw, ond yr unig heddlu yng Nghymru. Ac, fel y gwnaethoch chi sôn, Cwm Taf, Cwm Taf yw'r unig—. Mae'n ddrwg gen i, Caerdydd a'r Fro yw'r unig fwrdd iechyd, ond mae Cwm Taf yn dechrau ar y daith honno.
Rwy'n sylwi eich bod chi wedi dweud y byddech chi'n ysgrifennu llythyr atyn nhw, ond beth arall allwch chi ei wneud, Prif Weinidog, i annog y cyrff cyhoeddus hyn i wneud yn siŵr, erbyn yr Wythnos Cyflog Byw nesaf y flwyddyn nesaf, y gellir achredu pob corff cyhoeddus yng Nghymru, neu'n sicr fod yn dechrau'r daith bwysig honno ymlaen? Diolch yn fawr.
Rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna, ac rwy'n cytuno â llawer o'r hyn a ddywedodd. Rwyf i hefyd yn croesawu penderfyniad Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys i fod yn gyflogwr achrededig, ac mae Rhys ab Owen yn iawn i dynnu sylw at lwyddiant y sector addysg uwch yng Nghymru. Yn Abertawe, yn ninas Mike Hedges ei hun, mae'n enghraifft flaenllaw o'r hyn y gellir ei wneud. Mae Llywodraeth Cymru ein hunain yn ceisio arwain drwy esiampl. Rydym ni'n gyflogwr cyflog byw gwirioneddol achrededig. Rydym ni'n ariannu Cynnal Cymru i fod yn gyfrwng sy'n ymgyrchu ar y mater hwn, sydd wedi cael y llwyddiant a amlinellais yn gynharach. Mae'r bwlch rhwng canran y cyfloegion sy'n cael eu talu y cyflog byw gwirioneddol yng Nghymru ac mewn mannau eraill wedi crebachu eto y llynedd. Mae wedi bod yn crebachu o flwyddyn i flwyddyn, ac rydym ni bellach yn agos iawn at sefyllfa'r DU hefyd. Rydym ni'n defnyddio'r dylanwad sydd gennym ni drwy ein contract economaidd, ac yn sicr, yn y llythyr y byddaf i'n ei ysgrifennu at gyrff cyhoeddus yng Nghymru, byddaf yn gwneud yr holl bwyntiau y mae'r Aelodau wedi eu gwneud yma am fanteision gwneud hynny.