Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 16 Tachwedd 2021.
Rwy'n diolch i'r Aelod. Llywydd, un o brif effeithiau COP26 fydd y cynnydd y mae wedi ei wneud i ymwybyddiaeth y cyhoedd yng Nghymru o'r angen am weithredu brys. Trwy COP Cymru ac Wythnos Hinsawdd Cymru, ein nod yw ysgogi'r ymdrech gyfunol sydd ei hangen gan ddinasyddion Cymru ar ôl COP26 i geisio sicrhau planed sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.