1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 16 Tachwedd 2021.
4. Beth yw asesiad y Prif Weinidog o effaith COP26 ar Gymru? OQ57202
Rwy'n diolch i'r Aelod. Llywydd, un o brif effeithiau COP26 fydd y cynnydd y mae wedi ei wneud i ymwybyddiaeth y cyhoedd yng Nghymru o'r angen am weithredu brys. Trwy COP Cymru ac Wythnos Hinsawdd Cymru, ein nod yw ysgogi'r ymdrech gyfunol sydd ei hangen gan ddinasyddion Cymru ar ôl COP26 i geisio sicrhau planed sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Prif Weinidog, edrychaf ymlaen yn fawr at gymryd rhan yn COP Cymru, oherwydd rwy'n siŵr bod hynny yn gwbl gywir—mae angen i ni gynnwys pawb yn y fenter hon i achub y byd rhag trychineb hinsawdd.
Yn amlwg, mae COP yn waith sydd ar y gweill i ddwyn perswâd ar bob gwlad bod yn rhaid i ni newid yn sylweddol er mwyn osgoi'r trychineb hinsawdd sydd mor olau â'r dydd. Mae'r DU yn cadw ei harweinyddiaeth o COP ac eto, yn y wlad hon, mae'r DU yn parhau i wario £10 biliwn y flwyddyn ar gymorthdaliadau tanwydd. Felly, rwy'n croesawu'n fawr y ffaith bod Cymru yn ymuno â'r gynghrair rhoi terfyn ar olew a nwy. Sut ydych chi'n credu y gallwch chi helpu i ddwyn perswâd ar Lywodraeth y DU ynghylch yr angen i roi terfyn ar sgandal cymorthdaliadau tanwydd ffosil, sy'n gyfrannwr mor fawr at y problemau sy'n ein hwynebu yn awr?
Rwy'n diolch i Jenny Rathbone am hynna, ac yn diolch iddi hefyd am fod wedi cymryd yr amser i deithio i Glasgow a bod yn rhan o'r trafodaethau COP, fel y gwn y gwnaeth Aelodau eraill mewn rhannau eraill o'r Siambr hefyd. Rwy'n cytuno, Llywydd, â'r hyn a ddywedodd Jenny Rathbone—fe wnaeth COP gyflawni nifer o ganlyniadau pwysig iawn. Y camau ymlaen o ran datgoedwigo, o ran methan, o ran y symiau o arian sydd wedi eu rhoi at ei gilydd yn awr i gynorthwyo'r gwledydd hynny mewn rhannau eraill o'r byd sydd eisoes yn dioddef effeithiau'r newid yn yr hinsawdd—roedden nhw yn llwyddiannau y broses COP, ac roedden nhw'n llwyddiannau arweinyddiaeth y broses COP a ddangoswyd gan Alok Sharma hefyd. Fodd bynnag, roedd pethau y byddem ni wedi gobeithio y byddai COP wedi gallu mynd i'r afael â nhw sydd bellach wedi eu gohirio tan ddiwrnod arall. Ac yn sicr, mae lleihau echdynnu tanwydd ffosil yn un o'r pethau na wnaeth COP ei gyflawni yn y ffordd y byddai ei uchelgeisiau cychwynnol wedi ei awgrymu.
Felly, rwy'n falch iawn, Llywydd, bod Cymru yn un o wyth aelod sylfaenol y gynghrair rhoi terfyn ar olew a nwy. Roedd yn un o uchafbwyntiau ein cyfranogiad ni yn y gynhadledd. Rydym ni'n aelodau ochr yn ochr ag aelod-wladwriaethau fel Costa Rica, Denmarc, Ffrainc, Iwerddon, Sweden a Seland Newydd, ac rydym ni yno gyda Llywodraethau is-genedlaethol eraill o California a Quebec. Bydd y gynghrair yn dod yn gyfrwng, rydym ni'n credu, y byddwn ni, gyda'n gilydd, gyda'r partneriaid eraill hynny, yn gallu gwneud mwy drwyddo i roi terfyn ar echdynnu tanwyddau ffosil. Yma yng Nghymru, mae gennym ni'r hierarchaeth a ddatblygodd fy nghyd-Weinidog Lesley Griffiths yn ystod yr amser yr oedd hi'n gyfrifol am y pethau hyn, lle mae tanwyddau ffosil ar waelod ein hierarchaeth tanwydd ac ynni. Ac yng Nghymru, rydym ni wedi ymrwymo i leihau ac yna atal echdynnu pellach o'r adnoddau hynny sydd, yn anochel, yn gyfyngedig ac yn ddarfodedig. Byddwn yn cyflwyno'r polisïau yr ydym ni wedi eu darparu a'r penderfyniad sydd gennym ni i'w gweithredu i fod yn rhan o'r gynghrair honno, ac yna'n denu eraill i'r un achos, oherwydd bod hynny yn rhan gwbl angenrheidiol o'r gwaith dilynol y bydd yn rhaid ei wneud yn awr y tu hwnt i'r gynhadledd yn Glasgow.