Trafnidiaeth Gyhoeddus yn Nwyrain De Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 16 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:17, 16 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod. Llywydd, bydd y cyfraniad mwyaf at dwf y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn Nwyrain De Cymru yn dod drwy ostyngiad parhaus yng nghyfradd y coronafeirws yn yr ardal. Ers dechrau'r pandemig, mae'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus wedi gwella ond mae'n dal i fod yn llawer is na lefelau cyn y pandemig.