1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 16 Tachwedd 2021.
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn annog twf yn y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn Nwyrain De Cymru? OQ57211
Diolch i'r Aelod. Llywydd, bydd y cyfraniad mwyaf at dwf y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn Nwyrain De Cymru yn dod drwy ostyngiad parhaus yng nghyfradd y coronafeirws yn yr ardal. Ers dechrau'r pandemig, mae'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus wedi gwella ond mae'n dal i fod yn llawer is na lefelau cyn y pandemig.
Diolch, Prif Weinidog. Roeddwn i yn COP26 yn ddiweddar a'r brif thema oedd ein bod ni angen camau radical i newid ein tynged ar y blaned hon. Mae hyn yn cynnwys y ffordd yr ydym ni'n trefnu trafnidiaeth gyhoeddus. Mae angen iddi fod yn fwy deniadol os yw pobl yn mynd i gefnu ar eu ceir. Yn anffodus, mae'r newid diwylliant hwn y mae wir ei angen wedi cael ei lesteirio gan olygfeydd gorlawn fel y rhai a welsom ni ar ôl gêm Cymru yn erbyn Belarws, y problemau y mae'n ymddangos eu bod nhw wedi cael eu datrys gyda Stagecoach ddim yn talu cyflog teg i yrwyr, sydd wedi effeithio yn ddifrifol ar wasanaethau yn fy rhanbarth i, a rhai gwasanaethau cyn COVID yn diflannu oddi ar yr amserlen. Mae strategaeth drafnidiaeth Cymru a ddatgelwyd gennych chi yn gynharach eleni yn cynnwys targed y bydd 45 y cant o deithiau yn cael eu gwneud ar drafnidiaeth gyhoeddus erbyn 2040, cynnydd o 32 y cant yn y cyfnod cyn y pandemig. Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun yn fy rhanbarth i sy'n dal heb ei argyhoeddi bod trafnidiaeth gyhoeddus y gwasanaeth glân, cyfforddus a dibynadwy y maen nhw angen iddi fod?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol pwysig yna, sydd, yn fy marn i, yn codi cyfres o faterion pwysig iawn. Mae cyd-destun COVID yn dal i fod yn real iawn i drafnidiaeth gyhoeddus, Llywydd. Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gwariodd Llywodraeth Cymru £176 miliwn yn ychwanegol at yr hyn y byddem ni fel arfer wedi ei wario ar wasanaethau rheilffordd er mwyn cadw'r gwasanaeth rheilffordd i fynd. Yn ystod y 15 mis diwethaf, rydym ni wedi gwario £108 miliwn yn cynnal gwasanaethau bws, ac eto mae nifer y teithwyr y tu allan i'r diwrnodau digwyddiadau mawr hynny yn dal i fod yn sylweddol is na'r hyn y byddai wedi bod yn y mis cyn i'r coronafeirws daro. Gostyngodd nifer y teithwyr ar fysiau hyd at 95 y cant yn ystod diwrnodau gwaethaf y pandemig; mae wedi gwella i 66 y cant. Fe wnaeth teithiau rheilffordd wella ac maen nhw'n gwella eleni, ond yn y chwarter diwethaf y mae ffigurau ar gael ar ei gyfer, roedd 182 miliwn o deithiau teithwyr rheilffordd ar draws y Deyrnas Unedig, ac yn yr un chwarter yn 2019, 437 miliwn oedd y ffigur. Ar hyn o bryd, dyna'r cyd-destun sy'n llywio ein darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus o hyd. Mae ganddyn nhw lawer llai o bobl, mae eu blwch arian yn llawer iawn mwy gwag, maen nhw'n dibynnu ar ein gallu cyfyngedig i barhau i ddarparu cymorthdaliadau, ac mae'n anodd iddyn nhw lunio'r dyfodol hwnnw.
Serch hynny, fel Llywodraeth Cymru, rydym ni'n parhau i wneud y pethau y gwnaethom ni ddweud y byddem ni'n eu gwneud i greu metro de Cymru, a fydd yn berthnasol i ranbarth yr Aelod. Byddwn yn cyhoeddi cynllun bws ym mis Ionawr, a fydd yn rhagflaenu'r Papur Gwyn a'r Bil y byddwn ni'n ei gyflwyno wedyn yma yn y Senedd i ail-reoleiddio gwasanaethau bws. Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn y fflyd drydan, sydd i'w gweld yng Nghasnewydd a Chaerdydd a'r tu allan hefyd. Felly, er gwaethaf yr anawsterau, sy'n real iawn ac sy'n dal i bwyso yn galed iawn ar y diwydiant, byddwn yn parhau i fuddsoddi yn yr amodau a fydd yn caniatáu i'r sawl y cyfeiriodd Peredur Owen Griffiths ato, bod yn rhaid i ni ei argyhoeddi bod rhaid cefnu ar y car a mynd ar fws neu drên, y bydd gennym ni'r atebion iddo y bydd yn eu hystyried yn argyhoeddiadol.