1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 16 Tachwedd 2021.
8. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi rhieni newyddenedigol? OQ57209
Diolch i Joyce Watson, Llywydd. Yn nhymor diwethaf y Senedd, buddsoddodd Llywodraeth Cymru £110 miliwn mewn datblygiadau newyddenedigol ledled Cymru. Mae hynny yn cynnwys gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol, sydd bellach ar gael ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru, wedi'u cefnogi gan dros £3 miliwn o gyllid gwella iechyd meddwl blynyddol.
Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae'n Ddiwrnod Cynamseroldeb y Byd yfory, pan fyddwn ni'n troi ein meddyliau a'n canolbwynt at enedigaeth gynamserol, sydd, yn anffodus, weithiau yn cael effaith aruthrol ar deuluoedd. Gwn fod hyn yn rhywbeth y mae eich Llywodraeth wedi rhoi sylw arbennig iddo drwy'r rhaglen 1000 Diwrnod Cyntaf, a chyda buddsoddiad cyson mewn gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol, yr ydych chi wedi sôn amdano. Roedd diweddariad diweddaraf Llywodraeth Cymru ar hyn i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn nodi'r cynnydd da a wnaed o ran cymorth profedigaeth, ond a oes diweddariad ar yr hyn sy'n cael ei wneud i wella cymorth seicolegol i rieni newyddenedigol hefyd, yr oedd y pwyllgor hefyd wedi ei argymell?
Rwy'n diolch i Joyce Watson am hynny, Llywydd, ac am dynnu sylw at Ddiwrnod Cynamseroldeb y Byd yfory. Bydd angen gofal newyddenedigol ar un o bob 10 babi yng Nghymru, ac rwy'n credu y byddai llawer o bobl yn synnu o glywed y cafodd 2,800 o fabanod yng Nghymru eu derbyn i ofal newyddenedigol yn 2020. Rwy'n ddiolchgar iawn i sefydliadau fel Bliss am y cymorth y maen nhw'n ei gynnig i deuluoedd o dan yr amgylchiadau hynny, ac rwy'n hynod ddiolchgar i'r aelodau staff hynny, oherwydd mae gwasanaethau newyddenedigol yng Nghymru wedi bod dan bwysau aruthrol, ochr yn ochr â gweddill y gwasanaeth iechyd, Llywydd, yn yr wythnosau diwethaf, gyda chyfraddau absenoldeb o hyd at 30 y cant—staff yn mynd yn sâl gyda coronafeirws, wedi'u heffeithio arnyn nhw ganddo mewn ffyrdd eraill.
Pan oeddwn i’n Weinidog iechyd, Llywydd, cefais i gyfle i ymweld â nifer o unedau newyddenedigol. Prin eich bod chi eisiau anadlu pan fyddwch chi yno gyda babanod mor fach ag y gwelwch chi'n cael gofal llwyddiannus yno. Wrth gwrdd â rhieni, mae'n brofiad gofidus iawn i lawer ohonyn nhw, ac mae cymorth seicolegol, fel y dywedodd Joyce Watson, yn bwysig iawn iddyn nhw hefyd. Mae yna safonau'r Coleg Brenhinol yn y maes hwn, y mae pob bwrdd iechyd yn gweithio i'w cyrraedd, a lle mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid newydd i'w cynorthwyo i wneud hynny. Mae gwella cyfle i fanteisio ar therapïau seicolegol yn parhau i fod yn flaenoriaeth ar gyfer ariannu gwella gwasanaethau yn y maes hwn, ochr yn ochr â'r seilwaith ffisegol, sy'n amlwg iawn yn ardal Joyce Watson o Gymru. Ond mae'r ochr therapiwtig hefyd yn derbyn y buddsoddiad hwnnw.
Diolch i'r Prif Weinidog.