– Senedd Cymru am 2:32 pm ar 16 Tachwedd 2021.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Rwyf i wedi ychwanegu un datganiad at yr agenda heddiw ar COP26, a fydd yn cael ei gyflwyno gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Mae'r datganiadau ar ail gartrefi a fforddiadwyedd a chynllun tai cymunedau Cymraeg wedi'u gohirio. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Diolch i chi am eich datganiad busnes, Gweinidog. A gaf i alw am ddatganiad i nodi Wythnos Rhyng-ffydd? Wythnos Rhyng-ffydd yw'r wythnos hon, ac, wrth gwrs, mae grwpiau ffydd ledled Cymru yn gwneud cyfraniad enfawr i gymdeithas. Rwy'n credu y byddai'n amserol i nodi'r wythnos pe bai datganiad yn cael ei gyhoeddi gan y Llywodraeth. Byddai hefyd yn ddefnyddiol, rwy'n credu, yn y datganiad hwnnw, os gallech egluro pam y llwyddodd y Prif Weinidog i ddathlu Diwali, gŵyl Hindŵaidd bwysig, yr wythnos hon heb orchudd wyneb, tra bod pobl ledled y wlad yn dal i orfod gorchuddio eu cegau er mwyn canu emynau mewn addoldai ledled y wlad. Mae hynny'n amlwg yn safon ddwbl ac mae angen mynd i'r afael â hyn. Felly, byddwn i'n croesawu datganiad ar y materion pwysig hyn.
Diolch. Dydw i ddim yn credu ei bod yn briodol gwneud datganiad, ond yn sicr byddwn i'n talu teyrnged i'r holl sefydliadau sy'n ein cefnogi ni fel Llywodraeth Cymru. Byddwch chi'n ymwybodol o'r gwaith anhygoel y maen nhw'n ei wneud gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Rwy'n gwybod eich bod chi'n arwain cyfarfodydd gweddi bob wythnos, ac, unwaith eto, rwy'n diolch, yn arbennig i David Emery.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad yn ymwneud â chanllawiau Llywodraeth Cymru ar deithio rhyngwladol. Yn benodol, mae etholwr yng nghwm Llynfi wedi dal COVID-19 yn ddiweddar, ond daeth ei chyfnod ynysu hi i ben ddydd Mawrth 9 Tachwedd. Mae hi'n bwriadu teithio i San Francisco ddydd Mercher 24 Tachwedd, ond er mwyn gwneud y daith honno mae angen ardystiad meddygol yn ogystal â'r pas COVID arni. Mae hi wedi rhoi cynnig ar bob llwybr, ac mae hi wedi cael ei chyfeirio gan sawl gwasanaeth at ei meddygfa leol ym Maesteg, ond maen nhw'n dweud wrthi nad ydyn nhw wedi cael unrhyw arwydd eu bod yn gallu darparu ardystiad meddygol gan awdurdodau uwch. Gallaf i ddychmygu bod hwn yn broblem nid yn unig i fy etholwr i yng nghwm Llynfi, ond hefyd i nifer o bobl sy'n dymuno teithio. Mae'n ymddangos i mi nad yw'r gwasanaethau perthnasol yn cyfathrebu â'i gilydd ar hyn o bryd, ac nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw ganllawiau penodol gan Lywodraeth Cymru i'r GIG yng Nghymru ynghylch cyhoeddi llythyrau neu dystysgrifau meddygol at ddibenion teithio. Byddwn i a fy etholwr yng nghwm Llynfi yn gwerthfawrogi'n fawr ganllawiau gan y Gweinidog iechyd cyn gynted â phosibl.
Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiad ysgrifenedig, rwy'n credu mai'r wythnos diwethaf yr oedd hi ar deithio rhyngwladol. Fe wnaf i'n sicr ofyn iddi hi a oes unrhyw beth arall o ran yr ymholiad yr ydych chi'n ei godi, ac, os oes, gofynnaf iddi wneud datganiad ysgrifenedig arall.
Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, y cyntaf ar bolisi Llywodraeth Cymru ar drefnu contractau allanol—yn uniongyrchol neu gan gyrff a ariennir gan Lywodraeth Cymru yng Nghymru, fel Chwaraeon Cymru. Rwy'n gwrthwynebu trefnu trwy gontractau allanol, oherwydd rwy'n credu bod perygl difrifol o naill ai gostwng ansawdd y ddarpariaeth, neu ostyngiad o ran telerau ac amodau'r rhai sy'n cael eu cyflogi, neu'r ddau yn aml.
Hoffwn i hefyd gael datganiad ar uwchraddio TG ar gyfer sefydliadau a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae Comisiwn y Senedd o'r farn y gall fod yn fwy anodd uwchraddio systemau diogelwch ar gyfrifiaduron hŷn; maen nhw'n gweld bod gliniaduron hŷn hefyd yn methu'n fwy rheolaidd, gan achosi amhariad. Maen nhw'n dweud bod eu ffordd nhw o weithio yn cyd-fynd ag arfer gorau'r diwydiant. Eu diffiniad nhw o gyfrifiadur hŷn yw un sy'n bum mlwydd oed. Faint o gyfrifiaduron mewn sefydliadau a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd dros bum mlwydd oed, a pha raglen sydd gennych i'w huwchraddio?
Diolch. O ran eich ymholiad cyntaf, ynghylch trefnu contractau allanol, rydym ni'n awyddus i archwilio ble y gall gwasanaethau a chontractau gael eu dychwelyd i sector cyhoeddus cryfach. Mae'n un o'n hymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu, ac rydym ni'n disgwyl cyflawni honno yn gynnar yn y tymor llywodraethol hwn, yn sicr o edrych ar flwyddyn 2, byddwn i'n dweud—2022-23. Byddwn ni'n parhau i weithio gyda rhanddeiliaid, ac yn amlwg mae gennym ni dîm Bil partneriaeth gymdeithasol i sicrhau dull gweithredu cyson gyda'r Bil.
O ran eich ail gwestiwn, nid wyf i'n hollol siŵr faint o gyfrifiaduron sydd dros bum mlwydd oed—yn sicr, mae fy un personol yn llawer hŷn na hynny. Mae'n bwysig iawn bod gennym ni strategaeth ddigidol, a bydd yr Aelod yn ymwybodol o'n strategaeth ddigidol, a gafodd ei chyhoeddi gennym ni ym mis Mawrth, ychydig cyn yr etholiad. Mae hynny'n gosod gweledigaeth ac uchelgais glir iawn ar gyfer dull digidol wedi'i gydgysylltu yma yng Nghymru.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd am bwysigrwydd y diwydiant logisteg yn ein bywydau bob dydd? Mae'r diwydiant logisteg werth dros £127 biliwn i economi'r DU, ond mae ei wir werth yn y rôl y mae'n ei chwarae wrth sicrhau ein bod ni'n cael popeth sydd ei angen arnom ni—o'r rholiau papur toiled hollbwysig hynny i dwrci ar ein byrddau, ac, yn enw cydraddoldeb, rhost cnau i'r rhai ohonoch chi sy'n llysieuwyr a figaniaid yn ein plith. Felly, mae'n hanfodol i'r ffordd yr ydym ni'n byw ein bywydau. Yr wythnos diwethaf, gwnes i gyfarfod â chynrychiolwyr o'r Road Haulage Association i glywed yr hyn sy'n cael ei wneud i annog pobl i ymuno â'r diwydiant fel dewis gyrfa, ac, yn benodol, i bobl ifanc, i ddangos yr amrywiaeth eang o gyfleoedd cyflogaeth yn y sector logisteg, gan gynnwys gweinyddu, gyrru, gwaith warws, gwaith gweithdy, a hefyd rheoli. Yn ystod yr ymweliad, gwnaethon nhw fynegi'r farn nad yw Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi'r gwaith y maen nhw'n ei wneud, a gaiff ei ddangos gan fethu â phenodi unrhyw un o'r diwydiant i'r panel adolygu ffyrdd. A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog sy'n cydnabod pwysigrwydd y diwydiant logisteg i economi Cymru, a pha gamau y mae ef yn eu cymryd i gefnogi'r sector hanfodol hwn o'r economi, er mwyn sicrhau tegwch a chydraddoldeb yn y broses o wneud penderfyniadau yma yng Nghymru? Diolch i chi, Gweinidog.
Mae Llywodraeth Cymru yn sicr yn gwerthfawrogi ein diwydiant logisteg. Yn amlwg, dangosodd y pandemig ei fregusrwydd, ac mae Brexit, yn anffodus, wedi cael effaith sylweddol arno. Rwy'n credu bod angen i Lywodraeth y DU wir fynd i'r afael â'r materion logisteg yr ydym ni'n eu hwynebu. Maen nhw wedi cyflwyno mesurau dros dro; rwy'n ymwybodol eu bod wedi ysgrifennu, rwy'n credu, at bawb sydd â thrwydded HGV i weld a allan nhw eu hannog yn ôl. Byddwch chi'n ymwybodol ein bod ni newydd gynnal Blas Cymru, ac, yn amlwg, mae'r diwydiant bwyd a'r sector yma yng Nghymru yn dibynnu'n llwyr ar ein staff logisteg. Roedd yn dda gweld rhai ohonyn nhw'n cael eu cynrychioli yno. Dyma sut yr ydym ni'n ei wneud yn ddeniadol iddo fod yn ddewis gyrfa ac yn gyfle. Felly, unwaith eto, o fewn fy mhortffolio, o'r adran fwyd, rydym ni'n sicr yn gwneud llawer iawn o waith, ond gwn i fod y Dirprwy Weinidog yn sicr yn gwerthfawrogi'r diwydiant yn fawr iawn.
Trefnydd, dros y pythefnos diwethaf, dwi wedi codi ddwywaith gyda'r Gweinidog iechyd bryderon pobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd ynglŷn â'r pàs COVID. Er i'r canllawiau COVID gael eu diweddaru yr wythnos diwethaf i ddweud y dylai lleoliadau roi mynediad i bobl sy'n methu â chymryd prawf llif unffordd, nid yw hyn yn ddigon clir a chryf o'i gymharu â'r system yn Lloegr. Noda gwefan y Llywodraeth eich bod yn dal i weithio ar y system a fydd yn diweddaru'r pàs COVID yn awtomatig, er mwyn gallu cofnodi pobl nad yw'n bosib iddynt gael eu brechu am resymau meddygol. A gawn ni ddatganiad ac eglurder gan y Gweinidog ar y sefyllfa hon, os gwelwch yn dda, gan gynnwys amserlen o ran pryd fydd y system hon wedi ei diweddaru, a phryd fydd canllawiau mwy manwl ar gael o ran sicrhau mynediad i leoliadau i bobl sy'n methu â chael y brechlyn a methu cymryd prawf llif unffordd?
A gaf i hefyd ofyn i'r Gweinidog Newid Hinsawdd am ddiweddariad ynglŷn â'r anghysondeb rydyn ni yn ei weld o ran gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru, yn benodol o ran cyhoeddiadau ynglŷn â phwysigrwydd gwisgo gorchudd wyneb? Dwi wedi derbyn nifer o gwynion gyda phobl yn pryderu'n fawr nad ydyn nhw'n teimlo'n ddiogel ar y trenau ar y funund, a byddwn i'n ddiolchgar i wybod beth sydd yn digwydd, er mwyn sicrhau bod y cyhoeddiadau yn gyson a'r negeseuon yn gyfan gwbl eglur ynghylch pa mor angenrheidiol ydy hyn. Diolch.
Diolch. O ran eich cwestiwn cyntaf, rwy'n ymwybodol bod gwaith ar y gweill o ran y pàs COVID yn y ffordd yr ydych chi'n ei awgrymu. Felly, byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyhoeddi datganiad ysgrifenedig pan fydd y gwaith hwnnw wedi'i gwblhau.
O ran eich ail bwynt, rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol bod Trafnidiaeth Cymru yn parhau i wneud cyhoeddiadau ac i sicrhau bod pobl yn gwisgo gorchuddion wyneb. Rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn sicr yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru ynghylch hynny. Des i lawr ar drên ddoe o ogledd Cymru. Roedd yn rhaid i mi ofyn i'r arweinydd atgoffa pobl bod mwgwd yn orfodol yng Nghymru, oherwydd byddwch chi'n gwerthfawrogi yn dod i lawr o Wrecsam rydych chi'n croesi i Loegr. Mae'n rhaid i mi ddweud, pan ofynnodd ef i bobl, eu bod nhw i gyd wedi gwisgo eu masgiau, pob un ohonyn nhw. Felly, mae pobl yn gwneud y dewis, neu efallai nad ydyn nhw'n gwybod ei fod yn orfodol yng Nghymru. Felly, mae'n gwbl hanfodol bod cyhoeddiadau'n cael eu gwneud ar ein trenau ni i sicrhau bod pobl yn ymwybodol ei fod yn orfodol ac yn gyfraith yma yng Nghymru.
Diolch, Trefnydd. Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog iechyd. Yn gyntaf, dydd Mercher yw Diwrnod Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint y Byd, a ledled Cymru mae dros 76,000 o bobl yn byw gyda chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, sy'n gallu cael effaith sylweddol ar ansawdd bywyd unigolyn. Mae gan etholaethau fel fy un i, gyda threftadaeth ddiwydiannol, gyfraddau uwch na'r cyfartaledd. Felly, a gawn ni ddatganiad ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl yng Nghymru sydd â'r cyflwr hwn?
Yn ail, mae dydd Iau yn nodi blwyddyn ers i Sefydliad Iechyd y Byd lansio strategaeth fyd-eang i gyflymu'r broses o ddileu canser ceg y groth fel mater iechyd cyhoeddus. Gan weithio gyda Jo's Cervical Cancer Trust, cyflwynais ddatganiad barn yn croesawu'r pen-blwydd hwn. Ond a gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf o ran ymyriadau Llywodraeth Cymru i ddileu canser ceg y groth? A beth yn benodol sy'n cael ei wneud i wella mynediad i sgrinio serfigol?
Diolch. Fel y dywedwch chi, heddiw rydym ni'n nodi Diwrnod Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint y Byd. Mae'n gyfle i dynnu sylw at effaith clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint ac ystyried yr effaith y mae'r pandemig hefyd yn ei chael ar bobl sydd â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint. Rydym ni yn sicr wedi ymrwymo i wella gofal a chanlyniadau i bobl sy'n byw gyda'r cyflwr hwn, ac mae gennym ni nifer o raglenni sy'n cael eu harwain yn genedlaethol. Rydym ni hefyd wedi cyhoeddi £240 miliwn o gyllid yn ystod y flwyddyn i gefnogi adferiad y GIG, ac mae hynny'n cynnwys £1 miliwn ar gyfer rheoli cyflyrau cronig mewn gofal sylfaenol. Mae'n bwysig iawn bod pobl sydd â chlefyd Rhwystrol cronig yr ysgyfaint yn defnyddio'r ap clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint sy'n cael ei ddatblygu yma yng Nghymru ar hyn o bryd gan y GIG, oherwydd rwy'n credu y bydd hynny'n helpu unigolion sydd â'r cyflwr a hefyd y GIG i gydweithio'n well.
O ran eich ail bwynt ynghylch canser ceg y groth, fel y dywedwch chi, mae'n flwyddyn ddydd Iau ers i Sefydliad Iechyd y Byd ymrwymo i ddileu canser ceg y groth fel mater iechyd cyhoeddus, ac rydym ni'n cefnogi'n llwyr eu strategaeth i gael gwared ar ganser ceg y groth erbyn 2030. Rydym ni'n ymwybodol y caiff hyn ei gyflawni drwy frechu, drwy sgrinio, a thrwy drin namau cyn-ganseraidd. Rydym ni'n falch iawn mai Sgrinio Serfigol Cymru oedd y rhaglen sgrinio serfigol gyntaf yn y DU i gyflwyno profion HPV risg uchel yn llawn fel prif gynllun yn ôl yn 2018. Ac ers 2008, mae merched 12 a 13 oed yma yng Nghymru wedi cael cynnig y brechlyn HPV. Gwyddom ni fod y cyfuniad hwnnw o imiwneiddio a sgrinio wir yn cael effaith gadarnhaol, ac rwy'n credu mai ein lle ni i gyd yw sicrhau ein bod ni’n annog ein hetholwyr i fanteisio'n llawn ar y sgrinio hwnnw.
Ac yn olaf, Laura Jones.
Diolch, Llywydd. Diolch i chi, Gweinidog busnes. Hoffwn i alw am ddatganiad gan y Gweinidog addysg o ystyried y newyddion diweddar a'r newyddion pryderus bod athrawon yn cael eu recordio yn ystod gwersi a bod y ffilm yn cael ei huwchlwytho i'r llwyfan cyfryngau cymdeithasol TikTok. Mae'n sefyllfa sy'n mynd allan o reolaeth, ac rwy'n ymwybodol bod llawer o ysgolion nawr wedi ysgrifennu at rieni i godi ymwybyddiaeth o'r hyn sy'n digwydd. Mae'n dod yn fwyfwy amlwg bod angen i lywodraethau weithredu nawr, gan weithio gyda sefydliadau cyfryngau cymdeithasol, i fynd i'r afael â fideos sarhaus sy'n canolbwyntio ar athrawon. Mae athrawon ledled Cymru wedi'u targedu gan fideos difenwol a sarhaus wedi'u postio gan y disgyblion hyn ar TikTok. Mae hyn yn achosi pryder sylweddol ymhlith athrawon a staff yr ysgol. Mae athrawon yn gwneud gwaith gwych yn addysgu ein plant. Rydym ni i gyd yn gyflym i ganmol y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Mae angen i'w rhan mewn ysgolion fod yn lle diogel iddyn nhw, yn ogystal â'r disgyblion. Felly, a allai'r Gweinidog wneud datganiad ar sut y mae'r Llywodraeth yn ceisio helpu ein darparwyr addysg ni i ymdrin â hyn, ac i egluro pa ganllawiau y byddwch chi'n eu rhoi i athrawon i geisio eu helpu nhw yn hyn o beth?
Diolch i chi. Mae hi'n gwbl annerbyniol bod athrawon yn wynebu ymddygiad fel hyn. Mae ymddygiadau fel creu cyfrifon ffug, er enghraifft, yn gallu bod yn ddinistriol iawn ac maen nhw'n cael effaith andwyol ar unigolion. Fe wn i fod y Gweinidog wedi cysylltu â Chyngor Diogelwch y Rhyngrwyd y DU i sicrhau bod dull gweithredu cydgysylltiedig gennym ni ledled y DU ynglŷn â'r mater hwn, ac mae Cyngor Diogelwch y Rhyngrwyd y DU wedi cysylltu â TikTok ynglŷn â'r mater hwn.
Rydym ni wedi diweddaru ein canllawiau ni hefyd ar heriau feirysol i ddangos y cymorth sydd ar gael i athrawon er mwyn gallu diogelu eu lles eu hunain. Fel mae Aelodau yn ymwybodol, mae hi'n Wythnos Gwrth-fwlio'r wythnos hon, felly rydym ni'n gweithio gyda swyddfa'r comisiynydd plant i hyrwyddo'r ystod o adnoddau ystafell ddosbarth sydd ar gael ar Hwb i gefnogi ymddygiad parchus ar-lein. Ond, rwy'n credu ei bod hi'n gwbl hanfodol bod llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn cydnabod eu cyfrifoldeb nhw a'u dyletswydd nhw i ofalu am eu defnyddwyr.
Diolch i'r Trefnydd.