Part of the debate – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 16 Tachwedd 2021.
Gweinidog, rydych chi'n sôn yn eich datganiad am ostyngiad o 48 y cant mewn achosion newydd o TB ers 2009, ond fe fyddai hi'n dda gennyf gael gwybod beth mae'r ystadegau yn ei ddweud am ailymddangosiad y clefyd mewn buchesi sydd wedi'u heintio a faint o fuchesi a ddiffiniwyd yn rhai sy'n rhydd o TB ar ôl cyfnod maith dan gyfyngiadau. Mae atal buchesi newydd rhag cael y clefyd yn bwysig, ond i'r ffermwyr hynny sydd wedi bod dan gyfyngiadau TB ers tro, y nhw sy'n gweld effaith economaidd a meddyliol fwyaf garw'r clefyd, ac ni ddylid anghofio amdanyn nhw. Ac er fy mod i'n ddiolchgar am eich datganiad chi'r prynhawn yma, mae'n dod ar ôl 13 mlynedd o bolisi sydd wedi bod yn araf i daro'r nod terfynol o weld cydnabyddiaeth swyddogol o Gymru yn rhanbarth o'r DU sy'n rhydd o TB.
Os caf i, fe hoffwn i sôn am dri phwynt penodol wrth ymateb i'ch datganiad: brechlynnau, profion, ac iawndal. Rwy'n siŵr y bydd y sector yn croesawu eich diweddariad ar y cynnydd a welir yng Nghymru wrth sefydlu cynllun brechu. Eto i gyd, mae'n rhaid i ni fod yn onest â'r diwydiant amaethyddol: ni fydd brechlyn yn atal yr haint yn llwyr. Os yw'r pandemig byd-eang wedi dysgu unrhyw beth i ni, hyd yn oed gyda defnydd cyffredin o frechlyn, fe all mynychder clefyd barhau a gellir ei drosglwyddo, hyd yn oed pan fo'r cyfraddau yn is. Fe fyddai brechlyn i wartheg yn golygu y bydd ffermwyr yn parhau i fynd i'r afael â phresenoldeb posibl TB buchol yn eu buches nhw. Felly, mae hi'n bwysig nad ydym ni'n cyflwyno'r brechlyn fel ateb hud a lledrith i weld diwedd ar TB buchol. Er hynny, yn sicr fe all fod yn arf arall sydd ar gael i ni. Ac er fy mod i'n croesawu'r newyddion y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi'r gwaith o ddatblygu brechlyn TB ar gyfer gwartheg y gellir ei ddefnyddio, ni ddylai hynny guddio'r ffaith ein bod ni'n dal i fod sawl blwyddyn oddi wrth raglen hyfyw—dyna o leiaf bedair blynedd y bydd TB yn parhau i heintio ein gwartheg ni, a lladd ein da byw a niweidio cenhedlaeth arall o fusnesau teuluol.
I liniaru hyn, mae'n rhaid i ni fod yn arloesol ac yn uchelgeisiol yn ein cyfundrefn brofi. Mae hynny'n golygu ehangu ar y drefn brofi sydd gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd a gwneud yn fawr o rai dewisiadau amgen sydd ar gael ar hyn o bryd yn y diwydiant. Fe wyddom ni eisoes fod y prawf croen cyfredol a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru yn rhoi canlyniadau negatif anghywir, ac mae hynny'n cael ei nodi yn y rhaglen dileu TB ddiwygiedig gan ei bod hi'n nodi nad yw'n bosibl dileu'r risg o ymlediad TB yn llwyr drwy haint nad ydyw wedi ei ganfod. Ond, drwy wella'r profion, fe fydd hynny'n lleihau nifer yr achosion sydd heb eu canfod. Rydych chi'n sôn yn eich datganiad y bydd yr ymgynghoriad newydd yn gofyn am farn ar brotocolau profi, ond nid oes sôn am y profion a gaiff eu defnyddio. Fe hoffwn i gael rhagor o wybodaeth gennych chi am gyflwyno'r profion newydd hyn, gan gynnwys Enferplex ac IDEXX, i gael gwared ar ganlyniadau negatif anghywir wedi profion croen.
Yn olaf, iawndal. Roeddwn i'n bryderus o ddarllen bod y gyllideb ar gyfer taliadau TB wedi rhagweld gorwariant o £7 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Mae hon yn gyllideb sydd wedi gweld gorwariant bob blwyddyn ers 2015-16. Pe bai Llywodraeth Cymru wedi mynd i'r afael â TB buchol, a mynd i'r afael â gwraidd y clefyd yn gynt, yna ni fyddai'r gorwariant wedi digwydd, gan na fyddai'r clefyd wedi gallu ymledu trwy Gymru benbaladr, gan weld 10,000 a mwy o wartheg yn cael eu lladd yn ystod y 12 mis diwethaf yn unig.
Gweinidog, rwy'n ailadrodd ei bod hi'n rhaid i ni wneud penderfyniadau strategol hirdymor o ran mynd i'r afael ag effaith y clefyd hwn. Mae hi'n anghyfrifol i ni beidio ag ariannu'r cynllun iawndal yn briodol i ffermwyr, a chwyno am orwario ac edrych ar ffyrdd o leihau taliadau i wneud yn iawn am golli da byw yn hytrach na chanolbwyntio ar ffyrdd cynaliadwy o leihau ymlediad y clefyd yn y lle cyntaf. Rwy'n nodi'r tri dewis sy'n cael eu hawgrymu gan Lywodraeth Cymru gyda diddordeb, ac er bod yn rhaid i unrhyw gynllun iawndal adlewyrchu gwerth am arian i drethdalwyr, mae hi'r un mor hanfodol ein bod ni'n setlo ar gynllun sy'n cynnig taliad TB teg a chymesur i geidwaid gwartheg. Rwy'n aros yn eiddgar am ganlyniad yr ymgynghoriad y gwanwyn nesaf, ond rwy'n poeni ein bod ni'n canolbwyntio ar swm yr arian y gellir ei arbed yn hytrach na datrys y broblem, sef TB buchol.
Gweinidog, rydych chi'n cyfeirio at hyrwyddwyr TB yn eich datganiad. A gaf i ofyn i chi ailystyried y geiriad, os gwelwch yn dda? Nid oes neb yn dymuno hyrwyddo clefyd mor angheuol, sydd wedi achosi cymaint o helbul i ffermwyr ledled Cymru.
Os ydym ni am fynd i'r afael â TB buchol, mae'n rhaid i ni geisio gwella ansawdd ein cyfundrefn brofi, a pharhau i fuddsoddi mewn prosiect i gyflwyno brechlynnau, a sicrhau bod ein ffermwyr yn cael eu cefnogi mewn modd priodol. Gweinidog, rydych chi'n iawn i ddweud bod cydweithredu a phartneriaeth yn allweddol, ond mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb i hyn gyda mesurau cyfatebol. Ac felly rwy'n eich annog chi, peidiwch â gadael i ni weld 13 mlynedd arall yn mynd heibio; gadewch i ni weithio ar frys gyda'r diwydiant i weithredu strategaeth lawn a chynhwysfawr i ddileu TB sy'n cael ymwared o'r clefyd erchyll hwn yn ein gwartheg a'n bywyd gwyllt yng Nghymru unwaith ac am byth. Diolch.