3. Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Y Rhaglen Dileu TB Buchol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 16 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 3:00, 16 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn i Sam Kurtz am y cwestiynau yna. Ydy, mae hwn yn glefyd erchyll, rwy'n cytuno yn llwyr â chi, ac mae hi'n hanfodol ein bod ni'n gweithio mewn partneriaeth. Ni fyddwn i fyth bythoedd yn cyflwyno un peth yn y gist arfau fel—nid wyf i'n hoff o'r ymadrodd 'ateb hud a lledrith', ond dyna a ddywedasoch chi. Ond, nid dyna ystyr hyn, cyfres o fesurau sydd gennym ni, ac yn sicr am y pum mlynedd yr wyf i wedi bod mewn portffolio, fe ddysgais i hynny'n gyflym iawn, iawn. Pan edrychwch chi ar y wyddoniaeth, nid oes unrhyw un ateb; pe byddai hi felly, pa mor hawdd fyddai bywyd? Ond nid felly y mae hi. Ystyr hyn, felly, yw sicrhau bod y mesurau sydd gennym ni ar waith yn gwbl briodol.

Roeddech chi'n gofyn am ystadegau yn eich cwestiwn cyntaf chi ac yn sicr, gan edrych ar dueddiadau byrdymor, ar 30 o fis Mehefin eleni, roedd 81 yn llai o fuchesi o dan gyfyngiadau symud o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, 30 o'r mis Mehefin blaenorol yn 2020. Rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn nad ydym ni'n darllen gormod i dueddiadau byrdymor, gan ein bod ni'n disgwyl amrywiadau byrdymor yn y ffigurau. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i ni edrych ar y ffigurau, ac fe soniais i yn fy natganiad am y 48 y cant yr oeddech chi'n cyfeirio atyn nhw.

Nid wyf i'n cytuno â chi mai cynnydd araf sydd wedi bod. Ond rwyf i o'r farn ein bod ni wedi gwneud peth cynnydd sylweddol ers i ni fod â'r rhaglen hon, ond wrth gwrs os ydych chi wedi bod ag achosion hirdymor o TB yn eich buches chi—hynny yw am dros 18 mis—nid yw hynny o lawer iawn o gysur i chi o gwbl, ac rwy'n llwyr werthfawrogi hynny. Pan wnaethom ni adnewyddu'r rhaglen bedair blynedd yn ôl, fe ddaethom ni â'r cynlluniau gweithredu pwrpasol, sydd, yn fy marn i, wedi helpu rhai ffermwyr. Nid yw pob ffermwr wedi croesawu hynny, ond rwy'n sicr yn credu bod hyn wedi eu helpu nhw. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bryd i ni ddiwygio eto erbyn hyn ac, fel rydych chi'n dweud, yn yr ymgynghoriad, rydym ni wedi cyflwyno sawl peth i'w hystyried, ac rwyf i'n cynnig ein bod ni'n eu newid nhw.

O ran brechu gwartheg yr oeddech chi'n cyfeirio ato—fel rwyf i'n dweud, nid wyf i o'r farn fod unrhyw beth unigol, mae'n rhaid cael cyfuniad—y nod yw cael brechlyn TB ar gyfer gwartheg y gellir ei ddefnyddio gyda phrawf a all wahaniaethu rhwng anifeiliaid a frechwyd erbyn 2025. Yn sicr, pan wnes i gyfarfod â'r Athro Glyn Hewinson yn yr haf ym Mhrifysgol Aberystwyth, roedd ef yn gyffrous iawn am hyn gan ei fod ef wedi dweud ei fod ef bob amser wedi clywed y byddai'r brechlyn yn dod ymhen 10 mlynedd eto, ac erbyn hyn ymhen pedair blynedd eto yw'r ddealltwriaeth, ac rwy'n gwerthfawrogi bod hwnnw'n gyfnod gweddol faith, ond rydym ni'n nes at ddiwedd y daith nawr. Rwy'n sicr yn credu bod Llywodraeth y DU yn awyddus i gael brechiad ar gyfer gwartheg, ac yn bendant fe geir hwb ymlaen at hynny nawr, fe fyddwn i'n dweud, ledled y DU.

Roeddwn i'n sôn yn fy natganiad fy mod i'n siomedig nad oes unrhyw ffermydd yng Nghymru yn cymryd rhan yn y treialon hyn, ar ffermydd yn Lloegr y maen nhw i gyd ar hyn o bryd. Peth da fyddai unrhyw anogaeth i ffermydd o ardaloedd TB isel i gymryd rhan yn y treialon hyn. Yn sicr, yn y Llywodraeth, rydym ni'n gweithio yn agos gyda DEFRA a Llywodraeth yr Alban, ac fe fu yna tua 20 mlynedd o ymchwil i'r brechiad hwn erbyn hyn, ac fe wn i fod Llywodraeth Cymru, ymhell cyn fy amser i, wedi arwain ar hyn mewn gwirionedd.

Roeddech chi'n gofyn am brofion croen a phrofion yn gyffredinol. Yn sicr, mae'r prawf croen yn brawf hirsefydlog ac mae hwnnw'n cael ei ddefnyddio trwy'r byd. Dyma'r prif brawf gwyliadwriaeth, hyd y gwelaf i, ym mhob un o'r rhaglenni a reolir gan TB, ac mae'n debygol o roi dim ond un canlyniad positif anghywir i un anifail ym mhob 5,000 o wartheg nad ydyn nhw wedi cael eu heintio. Rwy'n awyddus iawn i edrych ar brofion newydd, ac fe soniais i fod hynny'n rhan o'r ymgynghoriad, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at glywed pobl yn rhoi eu safbwyntiau nhw ynglŷn â phrofion. Mae yna brofion nad ydyn nhw wedi cael eu dilysu hyd yn hyn, ond unwaith eto rwy'n gwybod bod fy swyddogion i wedi ymgysylltu â phobl ynglŷn â hynny. Rwy'n credu ein bod i gyd yn awyddus i wella'r profion ar y cyd, ac mae hwn yn gyfle gwirioneddol nawr i gael golwg ar hynny.

Roeddech chi'n sôn am y—rwy'n credu mai'r prawf gwrthgyrff IDEXX yn benodol, sef, fel y gwyddoch chi, prawf gwaed ac mae'n rhaid ei roi rhwng 10 a 30 diwrnod wedi prawf croen TB. Mae'r gyfradd uchel o brofion positif a welsom ni yn 2020 yn debygol o fod oherwydd ein bod ni wedi anelu'r prawf hwnnw, ac wrth gwrs, at ein hanifeiliaid ni â mwy o risg. Felly, rydym ni wedi bod yn ei ddefnyddio, yn ogystal â'r prawf gama, yn y mannau lle gwelwn ni lawer o achosion o TB yn y gogledd am y tro cyntaf. Felly, mae hi'n ddiddorol gweld y canlyniadau yr ydym ni'n eu cael yn y fan honno.

O ran iawndal, unwaith eto, rwy'n ymgynghori ar dri dewis, ac rwy'n gobeithio eich bod chi wedi cael amser i gael golwg ar yr ymgynghoriad. Rydym ni'n ymgynghori ar dri dewis. Maen nhw wedi cael eu hargymell i mi gan fwrdd y rhaglen. Felly, roeddwn i'n awyddus iawn i gael y tablau prisio ynghyd ag ychwanegiadau am fod yn aelod o gynllun achredu, ac yna'r ardoll TB. Caiff y tri dewis hynny eu nodi yn y ddogfen ymgynghori.

Roeddech chi'n sôn am y gorwariant ac rydych chi'n iawn: cynllun yw hwn sy'n cael ei arwain gan y galw, felly, yn amlwg—. Rwy'n credu, bob blwyddyn, ein bod ni wedi gordanysgrifio ar ei gyfer, ond, yn y Llywodraeth, mae gennym ni ddyletswydd statudol i dalu ffermwyr am anifeiliaid a gafodd eu lladd o dan y rhaglen, ac rydym ni'n dod o hyd i'r cyllid hwnnw bob tro. Rwyf i'n ailflaenoriaethu, rwy'n ailgyfeirio ac rwy'n dargyfeirio cyllid oddi wrtho, ond mae yna angen i ni leihau'r cyllid hwnnw—ac, unwaith eto, mae hynny'n rhan o'r ymgynghoriad. Felly, unwaith eto, fe fyddwn i'n annog Aelodau i annog ffermwyr, yn sicr, a'u hetholwyr nhw i gyd, os oes ganddyn nhw ddiddordeb yn hyn, i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.