Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 16 Tachwedd 2021.
Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiynau pellach hynny. Dwi'n rhannu gyda hi'r cof o ddarllen llyfr oedd yn eiddo i fi pan oeddwn i yn yr ysgol, ac rwy'n cofio datblygu diléit am ddarllen yn ystafell ddosbarth Miss Annie Derrick yn Ysgol Gymraeg Pontarddulais pan oeddwn i'n grwtyn bach. Felly, mae'r pethau yma yn aros yn y cof. Ond fel mae'r Aelod yn dweud, dyw e ddim yn brofiad sydd ar gael yn yr un ffordd i bawb, oherwydd mae'n rhywbeth sydd hefyd yn cael ei annog ar yr aelwyd, ac wrth gwrs does gan bawb ddim yr un mynediad at yr un adnoddau a'r un gefnogaeth. Mae hwn yn gyfraniad tuag at hwnnw. Mae'r cynllun yn ceisio mynd i'r afael â rhai o'r cwestiynau roedd hi'n sôn amdanynt—y bwlch cyrhaeddiad a'r pwyslais ar gefnogi dysgwyr sydd angen y mwyaf o gefnogaeth er mwyn gwneud cynnydd yn hyn o beth.
O ran y cwestiynau penodol, o ran y toolkit, mae hwn yn un o ystod o elfennau o gefnogaeth o ran datblygiad proffesiynol rydym ni'n gweithio arnyn nhw eisoes gydag Estyn a'r tîm mewnol yma yn Llywodraeth Cymru. Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda'r consortia er mwyn sicrhau bod yr arfer da sydd eisoes ar gael yn cael ei rannu yn ehangach fel rhan o'r adnoddau sydd ar gael i'n hathrawon ni. Felly, mae'r toolkit yn elfen o hynny ac yn cefnogi athrawon i ddatblygu eu sgiliau dysgu yn y maes penodol hwn.
O ran pwysleisio ac annog pobl i ddefnyddio mwy o ddarllen ar yr aelwyd, yn y 18 mis diwethaf, wrth gwrs, mae'r berthynas rhwng ysgolion a rhieni a gofalwyr plant wedi newid, ac mae e, mewn amryw ffyrdd, wedi gwella wrth i ysgolion ymateb i sialensiau COVID. Bydd ymgyrch gyhoeddusrwydd sylweddol yn cychwyn ar ddiwedd y flwyddyn hon i annog rhieni a gofalwyr i siarad gyda'u plant a darllen gyda'u plant ac esbonio manteision hynny. Byddwn i eisiau sicrhau bod y negeseuon sydd yn rhan o'r ymgyrch gyhoeddusrwydd genedlaethol honno yn amlinellu manteision hynny ac yn annog rhieni o bob cefndir i allu rhannu'r amser hynny gyda'u plant.
Fe wnaeth yr Aelod ofyn cwestiwn pwysig o ran ffoneg. Mae ffoneg yn un elfen o ystod o opsiynau sydd ar gael i athrawon. Mae e'n rhan bwysig o'r toolkit arall hwnnw o ran camau y gellid eu cymryd, ond mae'n rhaid hefyd sicrhau bod dysgu geirfa a dysgu dealltwriaeth yn digwydd ar y cyd. Ond dwi eisiau sicrhau ein bod ni'n edrych ar y dystiolaeth yn hyn o beth, fel ein bod ni'n rhoi'r cyd-destun hwnnw hefyd i'n hathrawon ni, fel bod ganddyn nhw'r cyd-destun i'r dewisiadau maen nhw'n eu gwneud. Felly dyna, fel y gwnes i sôn yn y datganiad, rwy'n bwriadu ei wneud: edrych ar y dystiolaeth o ran y ffordd honno o ddysgu llefaredd a sicrhau ein bod ni'n gallu rhoi'r arfer gorau ar waith ar gyfer y cwricwlwm newydd.
Mae rhannau eraill o'r Deyrnas Gyfunol, Lloegr yn benodol, yn cynnig prawf blynyddol ffoneg i fyfyrwyr; dwi ddim yn credu mai dyna'r ffordd iawn o fynd am y peth. Dŷn ni'n ceisio symud yn ein cwricwlwm oddi wrth y math yna o brawf sydd yn dangos snapsiot, os hoffwch chi. Mae gyda ni, wrth gwrs, asesiadau personol ar-lein ar gyfer darllen eisoes. Mae'r rheini ar gael mewn ffordd sydd yn hyblyg i athrawon allu eu gwneud yn ystod y flwyddyn gyda'u dysgwyr, ac sy'n rhoi darlun i athrawon ac i'r dysgwyr a'u gofalwyr a'u rhieni o gynnydd a datblygiad darllen a dealltwriaeth ein dysgwyr ni. Mae hynny'n rhan o ethos y cwricwlwm newydd o greu cyfle—bod asesiadau'n rhan o'r broses o ddysgu, hynny yw. Felly, mae hynny'n elfen wahanol yn y ffordd rŷn ni'n edrych ar bethau yma yng Nghymru.
Roedd y cwestiwn olaf wnaeth yr Aelod ei ofyn ynglŷn â chynyddu'r gweithlu addysg. Mae hwn, wrth gwrs, yn flaenoriaeth i ni, fel rŷn ni wedi trafod ar y cyd ac yma yn y Siambr eisoes—o ran athrawon, ond hefyd o ran cynorthwywyr yn yr ystafell ddosbarth, i sicrhau bod gennym ni weithlu sy'n siarad Cymraeg ymhob rhan o'r gweithlu. Mae hynny'n bwysig. Rŷn ni'n gweithio ar gynllun drafft ar hyn o bryd; rŷn ni wrthi'n paratoi hynny ar gyfer ei rannu gyda'n rhanddeiliaid. Rŷn ni wedi cael trafodaethau gydag amryw o'r rheini, gan gynnwys Cyngor y Gweithlu Addysg ac eraill, ond mae angen trafodaethau pellach gyda rhanddeiliaid eraill, sy'n cynnwys y comisiynydd ac eraill. Mae hwn yn rhywbeth rŷn ni'n gorfod gwneud cynnnydd cynnar arno fe, ond gallwn ni wneud hynny yn unig drwy gydweithio gyda'r partneriaid eraill sydd gennym ni yn y system addysg.