Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 16 Tachwedd 2021.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch o glywed y bydd y rhaglen rydych chi'n ei chyhoeddi heddiw yn sicrhau bod gan bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru lyfr ei hun i'w gadw. Mi ges i'n atgoffa yn ddiweddar o'r pleser ges i o ddarllen llyfr o'r enw Luned Bengoch pan oeddwn i'n blentyn—llyfr sydd newydd gael ei ailargraffu ac ar gael yn y siopau unwaith eto. Mi gefais i bleser o'r mwyaf o'i ailddarllen o yr wythnos diwethaf cyn cyfarfod o glwb darllen lleol yr ydw i yn aelod ohono. Mae hi'n hollol amlwg bod arferion darllen rydych chi'n eu dysgu pan rydych chi'n fach yn aros efo chi. Mae sefydlu sgiliau iaith cynnar da yn rhan allweddol o lythrennedd a gallu plant i gyflawni eu potensial addysgol a'u cyfleoedd bywyd, tra hefyd yn hanfodol i'r gallu i ffurfio a chynnal perthynas gymdeithasol efo teulu, cyfoedion a ffrindiau.
Mae yna ymchwil gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd sydd yn dangos bod y cyfnod COVID wedi gwaethygu’r oedi wrth gaffael sgiliau iaith a lleferydd ymhlith plant ifanc, ond dwi'n falch o'ch clywed chi'n sôn bod yna arwydd bod hynny yn gwella. Mae yna ymchwil hefyd ymhell cyn y pandemig. Mae yna dystiolaeth ar gael, wrth gwrs, fod plant o gefndiroedd difreintiedig yn fwy tebygol o fod y tu ôl i'w cyfoedion yn eu datblygiad o ran caffael sgiliau iaith a lleferydd erbyn iddyn nhw ddechrau yn yr ysgol gynradd. Mae yna ymchwil gan Achub y Plant sy'n dangos bod tua wyth o bob 10 o athrawon derbyn yng Nghymru yn gweld yn glir fod plant sy'n ymuno efo'u hysgolion yn ei chael hi'n anodd siarad mewn brawddegau llawn, a bod plant sy'n cael trafferthion efo'u lleferydd a'u hiaith yn ystod eu blynyddoedd cynnar yn aml yn dal i fod y tu ôl i'w cyfoedion o ran sgiliau llythrennedd allweddol yn 11 oed.
Felly, mae yna nifer o heriau yn wynebu Llywodraeth Cymru, a dwi'n falch iawn eich bod chi yn cydnabod hynny, a bod y cynlluniau rydych chi'n eu cyhoeddi heddiw yn mynd o leiaf ran o'r ffordd tuag at ddechrau goresgyn rhai o'r problemau mawr yma sydd gennym ni. Gan gofio pa mor allweddol ydy addysg blynyddoedd cynnar wrth ddatblygu sgiliau lleferydd a darllen, mi fuaswn i'n licio clywed mwy am y toolkit roeddech chi'n sôn amdano fo, hwn sy'n mynd i gael ei roi ar waith ar gyfer y blynyddoedd cynnar. Beth yn union fydd hwn, sut fydd hyn i gyd yn edrych a beth fydd yn newydd amdano fo? Fedrwch chi hefyd amlinellu pa gamau sydd am gael eu cymryd i ymateb i'r bwlch cyrhaeddiad, yr hwn roeddem ni'n sôn amdano fo, gan gofio bod plant o gefndiroedd difreintiedig yn fwy tebygol o fynd tu ôl i'w cyfoedion yn eu datblygiad o ran caffael sgiliau darllen a lleferydd? Ac rydych chi'n sôn am y dull ffoneg. Pam bod chi'n pwysleisio'r dull yma? Ac ydy hwn yn mynd i helpu yn benodol efo cau'r bwlch cyrhaeddiad? Oes yna fanteision penodol o ran yr agwedd yna sydd angen sylw?
Ac yn olaf, er mwyn gallu gwireddu amcanion 'Cymraeg 2050' a gwella sgiliau llafaredd a darllen plant yn y Gymraeg, mae'n glir, wrth gwrs, fod angen hyfforddi digon o athrawon i allu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Dwi ddim yn mynd i ymddiheuro am ofyn unwaith eto am eich cynlluniau chi i gynyddu a chryfhau'r gweithlu addysg Cymraeg yn benodol. Dwi'n sylwi eich bod chi yn eich datganiad heddiw yn rhoi pwyslais ar ddwyieithrwydd a chreu deunyddiau yn y ddwy iaith, sydd i'w groesawu, wrth gwrs, ond mae angen inni weld cynllun ar waith sydd yn ein symud ni ymlaen i gynyddu'r gweithlu hefyd sydd yn gallu cynorthwyo plant i wella eu sgiliau llafaredd a darllen. Diolch yn fawr.