Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 16 Tachwedd 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch am eich datganiad, Gweinidog. Rwy'n falch o glywed bod rhywfaint o gynnydd wedi bod o ran cyflwyno gwarant y person ifanc, a bod mwy a mwy o bobl ifanc ledled Cymru bellach yn gallu manteisio ar gyfleoedd, boed hynny mewn gwaith, hyfforddiant neu hyd yn oed sefydlu eu busnes eu hunain.
Pan oedd Llywodraeth Cymru yn sefydlu gwarant i bobl ifanc cyn yr haf, roedd gwir awydd i weld lleisiau pobl ifanc wrth wraidd y cynllun. Gweinidog, rydych chi wedi dweud eich bod, dros yr haf, yn bwriadu sefydlu sgwrs genedlaethol gyda phobl ifanc am y warant i bobl ifanc, ac er bod y datganiad heddiw'n rhoi rhywfaint o wybodaeth i ni am y gweithgarwch ymgysylltu a ddigwyddodd dros yr haf, efallai y gallech ddweud mwy wrthym amdano. Er enghraifft, a allwch chi ddweud wrthym sut y cynhaliwyd y sgwrs honno gyda phobl ifanc? Faint o bobl wnaethoch chi ymgysylltu â nhw? Ac, yn hollbwysig, sut y gwnaethoch chi sicrhau bod lleisiau ym mhob rhan o Gymru yn cael eu clywed?
Nawr, Gweinidog, rydych chi wedi'i gwneud yn glir, yn ddiweddar, fod Cymru'n Gweithio wedi bod yn gwneud rhywfaint o waith olrhain ers diwedd mis Medi, ac mae'n bwysig ein bod yn gweld yn union ble mae pethau'n mynd yn dda ac, efallai, lle mae angen gwneud gwelliannau. Felly, Gweinidog, a allech chi gadarnhau beth yn union mae Cymru'n Gweithio yn ei olrhain? A yw'n cwmpasu canlyniadau ym mhob maes, boed yn waith, yn hyfforddiant neu'n hunangyflogaeth? Ac os felly, pa fath o asesiad ydych chi wedi gallu ei wneud o'r data sydd gennych chi hyd yn hyn?
Mae'r datganiad heddiw hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y cynllun treialu paru swyddi y mae Cymru'n Gweithio wedi bod yn ymgymryd ag ef. Gwn o sgyrsiau blaenorol fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn awyddus i ddysgu o'r cynllun treialu, gyda'r bwriad o'i gyflwyno yn genedlaethol. Wrth gwrs, Cymru'n Gweithio sydd yn y sefyllfa orau i ymgysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid ledled y wlad ar hyn, ac felly, Gweinidog, a allwn ni ennyn mwy o fanylion gennych chi ynghylch a yw'r cyflwyno hwnnw'n dal i ddigwydd, a pha fath o amserlenni yr ydych wedi'u clustnodi i gwblhau'r gwaith penodol hwn?
Nawr, mae'n hanfodol bod gwarant y person ifanc yn gweithio ochr yn ochr â chynlluniau eraill Llywodraeth Cymru, fel cynllun Twf Swyddi Cymru a chynllun ReAct, er enghraifft. Yn wir, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd gydnabod y gwaith pwysig iawn sy'n cael ei wneud gan Gyrfa Cymru, sydd hefyd yn helpu pobl ifanc i gynllunio eu gyrfa, paratoi ar gyfer swydd, neu wneud cais am brentisiaeth neu hyfforddiant. Er enghraifft, yn gynharach y mis hwn, lansiodd Gyrfa Cymru bartneriaeth gyda'r elusen symudedd cymdeithasol genedlaethol, Siaradwyr i Ysgolion, i helpu i ddarparu cyfleoedd profiad gwaith a sgyrsiau gyrfa sydd ar gael i fyfyrwyr yng Nghymru rhwng 11 a 19 mlwydd oed, mewn ymgais i helpu pobl ifanc ddifreintiedig i ddal i fyny ar ôl COVID. Felly, mae'n bwysig iawn bod y warant i bobl ifanc yn gweithio ochr yn ochr â'r rhaglenni eraill hyn ac yn cyrraedd y bobl ifanc nad ydynt, efallai, wedi gallu cael gafael ar gymorth neu nad ydynt yn ymwybodol o'r cymorth mae'r rhaglenni eraill yn ei gynnig. Felly, Gweinidog, a allwch chi ddweud wrthym sut yr ydych yn bwriadu i’r warant i bobl ifanc weithio ochr yn ochr â phrosiectau a strategaethau eraill i gefnogi pobl ifanc yma yng Nghymru?
Gweinidog, mae'n gwbl hanfodol bod digon o arian yn ei le i sicrhau bod gan y warant i bobl ifanc yr adnoddau sydd eu hangen i gael yr effaith fwyaf, ac rwy'n falch bod y datganiad yn dweud ychydig mwy wrthym am y dyraniadau cyllidebol sy'n cael eu gwneud. Mae'n dda gweld cyllid ar gael ar gyfer y chweched dosbarth, darparwyr AB, prentisiaethau a'r sector AU, ond mae hefyd yn bwysig bod cyllid ar gael i ddatblygu cyfleoedd hunangyflogaeth hefyd. Felly, Gweinidog, mae'r datganiad yn nodi'n briodol, gydag un o bob saith o bobl yng Nghymru yn hunangyflogedig, fod angen i ni sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn deall yr opsiwn llwybr gyrfa hwn yn llawn. Felly, a allwch chi ddweud wrthym faint o arian sy'n cael ei ddyrannu i gefnogi entrepreneuriaeth?
Mae'r datganiad hefyd yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn estyn allan at gyflogwyr drwy'r ymgyrch 'Yn Gefn i Chi’, sy'n gwahodd cyflogwyr i gysylltu â Busnes Cymru a chwarae eu rhan yn y warant, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod cefnogaeth wirioneddol gan fusnesau ledled Cymru. Felly, Gweinidog, a allwch chi ddweud mwy wrthym am sut mae'r ymgyrch yn gweithio, sut rydych chi’n sicrhau bod busnesau ym mhob rhan o'r wlad yn ymwybodol o'r ymgyrch, a sut mae Busnes Cymru yn recriwtio busnesau ledled Cymru?
Nawr, Gweinidog, nod ymgyrch 'Bydd Bositif’ Llywodraeth Cymru, a lansiwyd fis diwethaf, yw annog Pobl ifanc Cymru i ymgysylltu'n gadarnhaol â'u cynlluniau ar gyfer y dyfodol, ac mae'n dda gweld Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda dylanwadau cymdeithasol a phartneriaid brand ar lwyfannau sy'n boblogaidd gyda phobl ifanc, i rannu negeseuon cadarnhaol am y cymorth sydd ar gael. Ac felly, Gweinidog, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae'r ymgyrch 'Bydd Bositif’ yn mynd rhagddi a'r effaith y credwch ei bod yn ei chael ar bobl ifanc yng Nghymru heddiw?
Dirprwy Lywydd, rwy'n falch o weld y bydd partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn awr yn dechrau cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu i lunio darpariaeth warantedig yn eu hardal, a bod grwpiau ffocws yn cael eu sefydlu rhwng nawr a mis Rhagfyr i ddeall sut mae pobl ifanc yn gweld y cymorth a'r cynnig sydd ar gael. Mae pob un o'r rhain am i’r warant i bobl ifanc fod yn llwyddiant yng Nghymru, ac mae'n hanfodol bod lleisiau pobl ifanc ledled Cymru yn cael eu clywed yn uchel ac yn glir. Felly, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac rwy'n edrych ymlaen at gael diweddariadau pellach ar y warant dros y misoedd nesaf? Diolch.