Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Weinidog. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch am eich gohebiaeth yn ddiweddar i ddarparu diweddariad ar yr ymgynghoriad nesaf ar gyd-bwyllgorau corfforedig. Hoffwn ganolbwyntio fy nghwestiynau ar hynny heddiw. Yn gyntaf, Weinidog, a ydych yn cytuno â chyn-ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus mai'r hyn yw cyd-bwyllgorau corfforedig yn y bôn, a dyfynnaf:
'yw ad-drefnu cynghorau drwy'r drws cefn'?