Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 17 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 1:41, 17 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Credaf fod cyd-bwyllgorau corfforedig yn rhywbeth cwbl wahanol i hynny, gan fod hyn yn rhywbeth sy'n cael ei arwain gan awdurdodau lleol. Maent yn cynnig cyfleoedd i symleiddio cytundebau cydweithredu presennol, ac yn darparu'r eglurder a'r cysondeb y mae'r prif gynghorau wedi bod yn chwilio amdanynt mewn sawl maes, yn enwedig yn y meysydd y byddant yn gyfrifol amdanynt—alinio datblygu economaidd, er enghraifft, trafnidiaeth a dulliau cynllunio a defnydd tir, er mwyn datblygu economïau rhanbarthol llwyddiannus a hybu twf lleol. Felly, tybed a ydych yn camddyfynnu Julie James yn hynny o beth, gan ei bod yn bendant o'r farn fod hwn yn gam pwysig ymlaen, sy'n cael ei wneud gydag awdurdodau lleol.