Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Weinidog, wrth inni agosáu at y gaeaf, mae pwnc tlodi tanwydd ar ein meddyliau ac ar feddyliau llawer o fy etholwyr yn ne-ddwyrain Cymru. Yn ddiweddar, galwodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynlluniau diwygiedig i drechu tlodi tanwydd er mwyn sicrhau eu bod ar waith erbyn mis Ebrill 2022. Pa drafodaethau a gawsoch gyda’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynglŷn ag adolygu eich cynllun ar dlodi tanwydd ac i roi cyhoeddusrwydd i'r cynlluniau sydd eisoes ar waith i gynorthwyo'r bobl agored i niwed hynny â'u biliau tanwydd dros y gaeaf hwn?