1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 17 Tachwedd 2021.
2. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i daclo tlodi wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio cyfiawnder cymdeithasol? OQ57198
Mae trechu tlodi yn ganolog i agenda’r Llywodraeth hon, fel yr amlinellir yn y rhaglen lywodraethu. Ddoe, cyhoeddasom becyn gwerth £51 miliwn i gefnogi aelwydydd agored i niwed sy’n wynebu'r argyfwng costau byw drwy fisoedd y gaeaf.
Diolch am yr ymateb, Gweinidog.
Canfu dadansoddiad diweddar gan y gynghrair Dileu Tlodi Plant mai Cymru sydd â'r gyfradd tlodi plant uchaf o unrhyw wlad yn y DU. Mae hyn er gwaethaf dau ddegawd o strategaethau, cynlluniau ac ymchwiliadau gan y Senedd, ac mae Comisiynydd Plant Cymru wedi dweud mai tlodi plant yw her fwyaf Llywodraeth Cymru, ond nid yw’n cael ei grybwyll yn y rhaglen lywodraethu bum mlynedd. Mae'r rheini ar incwm isel wedi colli swm sylweddol o arian wrth gael eu rhoi ar ffyrlo neu eu diswyddo, gyda 54,000 o barseli banciau bwyd yn mynd i blant yng Nghymru rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021. Dyna un parsel bob 10 munud. Er bod y £51 miliwn o gymorth a gyhoeddwyd fel rhan o'r gronfa gymorth i aelwydydd i'w groesawu, a oes gan y Gweinidog Cyllid unrhyw gynlluniau cyllido radical neu fwy hirdymor i fynd i'r afael ag achos sylfaenol problem barhaus tlodi plant yma yng Nghymru? Rwy'n gobeithio y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi fod y ffaith bod cynifer o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru heddiw yn warth ar ein cenedl.
Diolch am godi'r mater pwysig hwn, ac rwy'n siŵr ein bod yn rhannu llawer o bryderon am y plant sy'n cael eu magu mewn tlodi yng Nghymru. Yn amlwg, ni ddylai fod yn digwydd; mae'n dorcalonnus. Ond mae'n digwydd yn rhy aml o lawer. Mae Sefydliad Resolution wedi nodi y bydd teuluoedd sydd bellach yn wynebu'r toriad o £20 i'w credyd cynhwysol yn colli £1,040 y flwyddyn, sy'n swm enfawr o arian, ac mae'n effeithio ar nifer enfawr o deuluoedd ledled Cymru. Felly, bydd un o bob pum aelwyd yn colli'r arian hwnnw, a chredaf y bydd hynny'n gwthio mwy o blant i mewn i dlodi.
Ond o safbwynt Llywodraeth Cymru, mae gennym ein strategaeth tlodi plant, ac mae honno'n nodi ein hamcanion ar gyfer trechu tlodi plant drwy ganolbwyntio'n barhaus ar yr hyn y gwyddom ei fod yn gweithio'n dda. Yn 2019-20, cynhaliodd y Prif Weinidog adolygiad o dlodi plant, a nododd yr adolygiad hwnnw feysydd sy'n amlwg yn gweithio a lle dylem fuddsoddi ymhellach. A gwn fod gennych gryn ddiddordeb mewn prydau ysgol am ddim, ac mae hwnnw'n faes lle gwyddom y gallwn wneud gwahaniaeth i deuluoedd. Bydd rhan o'r cyllid a gyhoeddais ddoe yn cael ei ddefnyddio i gefnogi ac atgyfnerthu banciau bwyd a phartneriaethau bwyd cymunedol a hybiau cymunedol, i ddarparu ystod ehangach o gymorth i unigolion o'r lleoliadau hynny, gan gynnwys gwneud y gorau o incwm, gan y gwyddom nad oes llawer o unigolion a theuluoedd yn cael mynediad at yr holl gymorth y mae ganddynt hawl iddo o hyd. Felly, bydd y gwaith hwnnw'n cael ei gwblhau drwy'r prosiectau hynny.
Rydym hefyd wedi darparu cyllid ddoe i sefydlu 25 prosiect Bocs Bwyd Mawr arall ledled Cymru i leihau tlodi bwyd, helpu i wella cymeriant maethol, gwella llesiant, lleihau gwastraff bwyd a gwella dealltwriaeth am fwyd. Ac mae'r adolygiad a wnaethom o'r cynllun Bocs Bwyd Mawr presennol wedi dangos ei fod wedi bod yn hynod gadarnhaol i'r teuluoedd sydd wedi cael cymorth drwyddo.
Felly, yn sicr, mae gennym lawer o gynlluniau eisoes ar y gweill, a llawer o fuddsoddiad pellach rydym yn bwriadu ei wneud yn y maes pwysig hwn.
Weinidog, wrth inni agosáu at y gaeaf, mae pwnc tlodi tanwydd ar ein meddyliau ac ar feddyliau llawer o fy etholwyr yn ne-ddwyrain Cymru. Yn ddiweddar, galwodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynlluniau diwygiedig i drechu tlodi tanwydd er mwyn sicrhau eu bod ar waith erbyn mis Ebrill 2022. Pa drafodaethau a gawsoch gyda’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynglŷn ag adolygu eich cynllun ar dlodi tanwydd ac i roi cyhoeddusrwydd i'r cynlluniau sydd eisoes ar waith i gynorthwyo'r bobl agored i niwed hynny â'u biliau tanwydd dros y gaeaf hwn?
Ie, mae pris ynni'n destun cryn bryder dros y gaeaf sydd i ddod, a dyna pam y gwnaethom gyflwyno cynllun £51 miliwn ddoe i greu cronfa gymorth i aelwydydd, ac fel rhan o hynny, bydd £38 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn ein cynllun cymorth tanwydd gaeaf. Mae'n golygu yn ymarferol y bydd cartrefi cymwys sydd ar incwm isel yn gallu hawlio taliad o £100 i'w cefnogi gyda'u biliau ynni dros y gaeaf. Mae'r pwynt a wnewch ynglŷn â rhoi cyhoeddusrwydd i'r cymorth hwn yn bwysig iawn, a dyna pam ein bod yn gweithio'n agos gyda llywodraeth leol, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y gwaith a wnânt. Felly, bydd pob awdurdod lleol yn ysgrifennu at bobl yn eu hardal y gwyddant eu bod yn gymwys i gael y cymorth hwn, i sicrhau eu bod yn ymwybodol ohono. A hefyd, i'r rheini sy'n meddwl y gallent fod yn gymwys ond sydd heb glywed gan eu hawdurdod lleol eto, erbyn diwedd mis Rhagfyr, byddwn yn argymell iddynt edrych ar wefan yr awdurdod lleol lle gallant wneud eu cais eu hunain am y cymorth hwnnw. Ond rydym yn disgwyl cyrraedd oddeutu 350,000 o aelwydydd gyda'r taliad o £100, i gynorthwyo gyda'r costau ynni uwch dros y gaeaf.