Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Prynhawn da, Weinidog. Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno ei bod yn argyfwng ar ofal cymdeithasol—argyfwng sydd wedi lledaenu y tu hwnt i'r sector gofal ac sy'n cael effaith wirioneddol ar ein GIG a'n gwasanaethau. Fodd bynnag, nid ydym yn mynd i ddatrys y problemau mewn gofal iechyd drwy ddargyfeirio mwy o arian i'r GIG. Bydd yr ardoll iechyd a gofal cymdeithasol yn darparu arian mawr ei angen i sicrhau bod ein staff gofal cymdeithasol yn ennill cyflog teg—cyflog a fydd yn gwneud gofal cymdeithasol yn broffesiwn deniadol ac yn helpu i fynd i'r afael â'r problemau recriwtio sy'n wynebu'r sector. Weinidog, a wnewch chi sicrhau bod cyllid o'r ardoll gofal cymdeithasol yn cael ei ddarparu i lywodraeth leol fel y gallwn sicrhau bod y sector gofal yn cael ei ariannu'n iawn? Diolch.