Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Mae hwnnw'n gwestiwn diddorol a phwysig gan ein bod yn llwyr gydnabod bod pwysau ym maes gofal cymdeithasol yn cael effaith uniongyrchol ar wasanaethau'r GIG, ac rydym yn gweld rhywfaint o hynny'n digwydd ar hyn o bryd. Mae'n ddiddorol hefyd oherwydd bod Llywodraeth y DU, o ran y cyfraniadau yswiriant gwladol, wedi awgrymu y byddant yn rhoi'r mwyafrif helaeth o'r arian hwnnw i mewn i wasanaethau iechyd yn hytrach na gwasanaethau cymdeithasol yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, fel y dywedaf, rwy'n cael trafodaethau gyda fy nghyd-Aelodau ynglŷn â'r gyllideb y byddwn yn ei chyhoeddi ar 20 Rhagfyr, a hoffwn roi sicrwydd i fy nghyd-Aelodau ein bod yn rhoi'r pwys mwyaf ar wasanaethau cymdeithasol. Rydym eisoes wedi nodi y byddem yn ceisio rhoi'r setliad gorau posibl i lywodraeth leol gan fod y gwasanaethau hynny, wrth gwrs, yn cael eu darparu'n bennaf drwy lywodraeth leol, er bod y prif grŵp gwariant iechyd fel arfer yn gwneud cyfraniad hefyd.