Cyfrifoldebau Cyd-bwyllgorau Corfforaethol

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 17 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:00, 17 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Yn sicr. Ni fydd cyfrifoldebau'n cael eu symud oni bai bod y ceisiadau hynny'n dod gan awdurdodau lleol eu hunain. Rwy'n credu bod hyn yn ymwneud mwy â datganoli pŵer o Lywodraeth Cymru i'r cyd-bwyllgorau corfforedig na dim arall. Hyd yma, nid ydym wedi cael ceisiadau i ddatganoli meysydd mawr o gyfrifoldebau newydd, oherwydd mae'n ddyddiau cynnar o ran yr hyn rydym yn ei weld gyda chyd-bwyllgorau corfforedig. Mae'n bwysig eu bod yn gallu cael eu traed tanynt cyn inni ddechrau cael sgyrsiau am gyfrifoldebau yn y dyfodol.