Cyfrifoldebau Cyd-bwyllgorau Corfforaethol

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 17 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:59, 17 Tachwedd 2021

Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Roeddwn i'n gwrando'n astud ar eich atebion chi i rai cwestiynau blaenorol ar y maes yma, ac mi wnaethoch chi fynd i'r afael â'r cwestiwn ynglŷn â phasio cyfrifoldebau i lawr o Lywodraeth Cymru i'r cydbwyllgorau corfforaethol, ond wnes i ddim clywed o reidrwydd eich safbwynt chi o safbwynt y consérn sydd yna ymhlith llywodraeth leol, wrth gwrs, y bydd y Llywodraeth dros amser yn ychwanegu mwy a mwy o gyfrifoldebau sydd, ar hyn o bryd, yn gorwedd gydag awdurdodau lleol i'r CJCs—hynny yw, bod y cyfrifoldeb yn symud lan y tsiaen ac nid i lawr. Nawr, adeg pasio'r ddeddfwriaeth gynradd, fe roddwyd sicrwydd na fyddai hynny'n digwydd, a byddwn i'n gofyn ichi hefyd heddiw a allwch chi roi yr un sicrwydd ag yr ydyn ni wedi clywed gan eich rhagflaenydd chi na fydd symud cyfrifoldebau o awdurdodau lleol i'r cyd-bwyllgorau corfforaethol yma'n digwydd oni bai bod awdurdodau lleol yn ewyllysio hynny.