Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Fel gŵyr y Gweinidog, mae nifer o sefydliadau o'r sector diwylliannol, megis theatrau a lleoliadau lleol cerddoriaeth, dal heb fedru gweithredu gyda chapasiti llawn eto oherwydd y mesurau diogelwch maent wedi eu rhoi mewn grym i warchod pobl rhag COVID. Ac er bod nifer eu mynychwyr yn llai, mae angen mwy o staff er mwyn medru rhoi'r mesurau diogelwch ar waith, gan gynnwys gweithredu'r pas COVID. Oes bwriad gan y Llywodraeth i ehangu'r gefnogaeth ariannol i'r sectorau hyn fel rhan o'u hadferiad yn sgil COVID er mwyn gwarchod dyfodol sector sy'n eithriadol o bwysig o ran economi Cymru?