1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 17 Tachwedd 2021.
3. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i ddarparu cyllid ychwanegol i bortffolio'r economi i gefnogi twristiaeth? OQ57195
Y cymorth rydym wedi'i roi i'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru drwy gydol y pandemig yw'r mwyaf hael yn y DU, gyda busnesau cysylltiedig yn elwa o £50 miliwn o gronfa buddsoddi mewn twristiaeth Cymru a £56 miliwn o'r gronfa cadernid economaidd.
Diolch. I etholaethau fel Pen-y-bont ar Ogwr, mae twristiaeth wedi chwarae rhan annatod yn ein heconomi a'n hanes yn lleol—daw ymwelwyr o etholaethau y tu hwnt i'n ffiniau drwy gydol y flwyddyn i fwynhau ein traethau, lletygarwch ac atyniadau i dwristiaid, ac mae buddsoddiad yr Undeb Ewropeaidd wedi bod yn hanfodol i lawer o'r llwyddiant hwnnw, rhywbeth sydd bellach dan fygythiad, gyda Llywodraeth y DU yn gwrthod darparu cyllid yn lle'r cyllid hanfodol hwnnw. Gyda Llywodraeth y DU yn sathru ar ddatganoli ac yn ceisio gwneud penderfyniadau yn Whitehall yn hytrach nag yng Nghymru, a symud ymhellach i ffwrdd oddi wrth y bobl sy'n deall dymuniadau ac anghenion y cymunedau sy'n byw yno, a all y Gweinidog gadarnhau ei bod yn gweithio i amddiffyn cymunedau fel Pen-y-bont ar Ogwr a rhannau o Borthcawl, yn hytrach na bod y cadarnleoedd Torïaidd yn unig yn elwa o unrhyw fuddsoddiadau yn y dyfodol?
Yn sicr. Diolch yn fawr am godi hynny ac am gofnodi'r ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi ceisio taenu ychydig iawn o gyllid ar draws eu hardaloedd etholaethol eu hunain, a golyga hynny fod Pen-y-bont ar Ogwr, mewn gwirionedd, wedi'i chael hi'n arbennig o wael yn sgil ymagwedd Llywodraeth y DU. Cafodd yr ardal ei dad-flaenoriaethu ar gyfer cyllid gan y Ceidwadwyr yn San Steffan, er ei bod wedi cael budd yn flaenorol o'r lefel uchaf o gymorth yr UE. A dangoswyd hyn wrth i'r sir dderbyn £785,000 yn unig o'r gronfa adfywio cymunedol gwerth £47 miliwn a ddyfarnwyd i awdurdodau lleol Cymru. A gadewch inni gofio mai £47 miliwn yw hwnnw yn lle'r £375 miliwn y byddem wedi'i gael pe bai Llywodraeth y DU wedi ymrwymo a chadw at ei haddewid na fyddem yn cael yr un geiniog yn llai drwy adael yr Undeb Ewropeaidd.
Ac wrth edrych ymhellach tua'r dyfodol hefyd, mae proffiliau gwariant hirdymor y gronfa ffyniant gyffredin yn £400 miliwn i gyd ledled y DU yn 2022-23, £700 miliwn yn 2023-24, a £1.5 biliwn yn 2024-25. Ac mae hynny ledled y DU. Felly, yn amlwg, nid oes gan Lywodraeth y DU unrhyw fwriad o gwbl i ddarparu cyllid cyfwerth â'r £375 miliwn y flwyddyn o gyllid y byddai Cymru wedi cael budd ohono o'r UE pe byddem wedi parhau i fod yn aelodau o'r UE, er gwaethaf addewidion y Ceidwadwyr na fyddem geiniog yn waeth ein byd.
Fel gŵyr y Gweinidog, mae nifer o sefydliadau o'r sector diwylliannol, megis theatrau a lleoliadau lleol cerddoriaeth, dal heb fedru gweithredu gyda chapasiti llawn eto oherwydd y mesurau diogelwch maent wedi eu rhoi mewn grym i warchod pobl rhag COVID. Ac er bod nifer eu mynychwyr yn llai, mae angen mwy o staff er mwyn medru rhoi'r mesurau diogelwch ar waith, gan gynnwys gweithredu'r pas COVID. Oes bwriad gan y Llywodraeth i ehangu'r gefnogaeth ariannol i'r sectorau hyn fel rhan o'u hadferiad yn sgil COVID er mwyn gwarchod dyfodol sector sy'n eithriadol o bwysig o ran economi Cymru?
Wel, rydym wedi bod yn ymgysylltu drwy gydol y pandemig â fforwm yr economi ymwelwyr a'r grŵp rhanddeiliaid lletygarwch, a bydd rhai o'r busnesau a ddisgrifiwyd gennych wedi'u cynrychioli gan y grwpiau hynny. Yn amlwg, mae pethau'n dal i fod yn heriol i'r sector hwnnw. Rydym wedi ceisio sicrhau bod y pàs COVID mor syml â phosibl, ond rwy'n cydnabod ei bod yn dasg ychwanegol rydym yn gofyn i fusnesau ei chyflawni. Ond gadewch inni gofio mai pwrpas y pàs COVID yw cadw busnesau ar agor, a dyna'r peth gorau y gallwn ei wneud i gefnogi busnesau o bob math, eu cadw ar agor. A dyna un o'r pethau rydym wedi bod yn ceisio eu gwneud drwy gyflwyno'r pàs COVID.
Rydym hefyd yn edrych drwy ein lens tuag at y dyfodol mewn perthynas ag adfer y sector, ac rydym wedi bod yn gweithio ar y cynllun, a gyhoeddwyd yn ddiweddar iawn gan fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog, sef y cynllun adfer twristiaeth a lletygarwch. Ac roedd hwnnw, wrth gwrs, yn canolbwyntio ar ailadeiladu a gwytnwch ar gyfer y sector. Cafwyd cyfleoedd cyllido newydd arloesol ar gyfer y sector hefyd, megis cronfa gyfalaf y Pethau Pwysig. Fe'i hail-lansiwyd yn ddiweddar gyda chronfa gyfalaf o £2.4 miliwn i gyflawni rhai gwelliannau ar raddfa fach i'r seilwaith twristiaeth ledled Cymru. Ac rydym hefyd wedi ariannu prosiectau drwy ein cynllun cyrchfannau denu twristiaeth. Felly, mae sawl ffynhonnell o gyllid y gallwn eu defnyddio i gefnogi'r sector.