Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Rwy'n amlwg yn ymwybodol o'r pryderon ynghylch defnyddio glyffosad. Ar ddiwedd 2017, cafodd ei ailgymeradwyo am bum mlynedd arall gan yr UE, ac rwy'n ymwybodol fod trafodaethau'n dechrau yn awr rhwng Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop a'r Asiantaeth Gemegion Ewropeaidd. Ond yn amlwg, ers mis Ionawr eleni, mae cyfundrefn reoleiddio plaladdwyr annibynnol newydd wedi dechrau gweithredu ym Mhrydain, ac mae gan honno broses asesu risg barhaus, drylwyr a chynhwysfawr ar gyfer plaladdwyr. Felly, yn awr bydd Gweinidogion Cymru yn parhau i wneud penderfyniadau perthnasol ynghylch plaladdwyr ar gyfer Cymru, a bydd Prydain yn cynnal ei hasesiadau annibynnol ei hun o'r dystiolaeth ar y cemegyn. Yn amlwg, bydd Gweinidogion Cymru yn rhan o'r trafodaethau hynny.