Plaladdwyr

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 17 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of James Evans James Evans Conservative 2:17, 17 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Weinidog, nod cynllun gweithredu cenedlaethol y DU ar gyfer defnyddio plaladdwyr yn gynaliadwy yw lleihau risgiau ac effeithiau plaladdwyr i iechyd pobl a'r amgylchedd, tra'n sicrhau bod plâu ac ymwrthedd i blaladdwyr yn cael eu rheoli'n effeithiol. Ar hyn o bryd mae llawer o ffermwyr a rheolwyr tir yn defnyddio plaladdwyr i reoli a diogelu eu cnydau rhag niwed gan infertebratau, clefydau a chwyn. Mae un o amcanion cynllun gweithredu cenedlaethol y DU yn canolbwyntio ar ymchwil a datblygu, felly a allwch chi amlinellu pa waith ymchwil a datblygu a wnaethpwyd yn uniongyrchol yma yng Nghymru mewn perthynas â phlaladdwyr fel y gallwn leihau ein dibyniaeth arnynt a helpu i ddiogelu'r gadwyn cyflenwi bwyd?