Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 17 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:26, 17 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Un o'r rhesymau pam y dywedais fy mod am roi'r gorau i ddal moch daear a chynnal profion arnynt oedd oherwydd ei fod yn galw am lawer o adnoddau ac nid oedd wedi darparu cymaint o ddata â'r hyn y meddyliais y byddai'n ei wneud. Credaf y byddai'r cyllid a ddarperais ar gyfer y cynllun dal a phrofi yn y gorffennol wedi cael ei ddefnyddio'n well mewn cynllun brechu moch daear. Felly, dyna pam y cyhoeddais £100,000 ddoe. Rwy'n llwyr gydnabod yr hyn a ddywedwch am dorri diogelwch data—rwy'n ceisio cofio ai tair neu bedair blynedd yn ôl y digwyddodd, ond roedd ychydig flynyddoedd yn ôl, ac yn amlwg, fe wnaethom ymddiheuro. Ond rwyf eisiau i'n sector ffermio a'r gymuned fod â ffydd yn y rhaglen hon i ddileu TB. Fel y trafodwyd yn helaeth ddoe, credaf ei bod yn gweithio. Mae'n bryd ei hadnewyddu yn awr, gan fod pedair blynedd wedi bod ers inni ei chyflwyno, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd pobl yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad.