Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Wel, Weinidog, bydd hynny'n siomedig, gan fod Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru yn credu bod cael gwared ar y cynllun dal a phrofi yn gam yn ôl.
Ond i symud oddi wrth TB a chanolbwyntio ar gymorth ariannol, yr wythnos diwethaf, clywodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig dystiolaeth gan yr undebau ffermio, pan ofynnwyd iddynt am eu pryderon ynghylch y ffaith bod cyllid rhaglen datblygu gwledig heb ei wario erbyn diwedd y rhaglen. Mynegodd Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru eu siom fod traean o'r gyllideb wreiddiol yn dal heb ei wario ym mis Awst eleni, er i'r rhaglen ddod i ben y llynedd. Weinidog, a ydych yn rhannu'r pryderon hyn ac yn cytuno bod yn rhaid gwario cyllid y rhaglen datblygu gwledig yn effeithiol ac mewn modd tryloyw? Pa sicrwydd y gallwch ei roi i ffermwyr na fydd eich tanwariant yn cael unrhyw effaith ar unrhyw gytundebau ariannu yn y dyfodol?