Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Diolch. Fel y dywedais, nid yw'r mater hwn yn rhan o fy mhortffolio mewn gwirionedd—mae'n perthyn i'r weinyddiaeth newid hinsawdd—ond rwy'n ymwybodol fod ymgynghoriad ar y cyd yn y DU ar fersiwn ddrafft o gynllun gweithredu cenedlaethol diwygiedig ar gyfer defnyddio plaladdwyr yn gynaliadwy wedi'i lansio ddiwedd y llynedd. Gwn fod swyddogion y Gweinidog yn gweithio'n agos iawn gyda'u swyddogion cyfatebol ledled y DU fel y gallant ddiwygio'r cynllun drafft, tra'n ystyried yr ymatebion a gyflwynwyd yn yr ymgynghoriad.