Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 17 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative 2:29, 17 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Fe sonioch chi am y prosiectau amgylcheddol, ac ar fater taliadau rhaglen datblygu gwledig effeithiol a thryloyw, mae ffigurau a ryddhawyd gan Lywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod cyfran gynyddol o gronfa creu coetir Glastir Llywodraeth Cymru yn cael ei defnyddio i ariannu prosiectau plannu coed ar dir fferm yng Nghymru a brynwyd gan fusnesau tramor, heb unrhyw fudd i Gymru na'n cymunedau ac yn groes i'n hymdrechion ein hunain i fynd i'r afael â newid hinsawdd. O ystyried bod busnesau mawr o'r tu allan i Gymru yn gwneud defnydd o grantiau Glastir, a ffermwyr lleol fel David Mills o Bowys yn cael eu cosbi a'u dirwyo o filoedd o bunnoedd am wneud y peth iawn drwy blannu coed, a wnewch chi ddatgelu i'r Siambr faint o arian trethdalwyr, a ddyrannwyd drwy gronfa creu coetir Glastir, sydd wedi'i roi i fusnesau gwerth miliynau o bunnoedd i blannu coed yng Nghymru?