Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Rwy'n cytuno â chi y dylid ei wario'n llawn; nid wyf yn rhannu pryderon na fydd hynny'n digwydd. Rwy'n dal i fod yn hyderus y bydd arian y rhaglen datblygu gwledig i gyd wedi'i wario erbyn diwedd 2023, sef yr adeg y mae'n rhaid i'r arian fod wedi'i wario. Rwy'n siŵr y byddwch yn deall y bu heriau sylweddol i rai prosiectau oherwydd effaith y pandemig ac effaith barhaus y ffaith ein bod wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd. Yn ddiweddar, cyhoeddais estyniadau i gontractau amaeth-amgylcheddol Glastir am ddwy flynedd, drwy'r rhaglen datblygu gwledig, ac rwy'n credu bod hynny wedi cael croeso mawr. Oherwydd roeddwn eisiau rhoi sicrwydd i'r prosiectau amgylcheddol hynny nad oeddem wedi colli'r enillion a gawsom drwyddynt, cyn trosglwyddo i'r cynllun ffermio cynaliadwy. Mae'r ymrwymiad lefel prosiect presennol yn £764.7 miliwn ac mae hynny'n ymrwymiad o 91.2 y cant o gyllid yn erbyn cyfanswm gwerth y rhaglen o dros £838 miliwn.