Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Diolch. Mae'n amlwg felly nad yw cefnogi ffermwyr Cymru yn uchel ar flaenoriaeth y Torïaid yn San Steffan.
Gan symud ymlaen i edrych yn fwy arbennig ar bolisi ffermydd yn y dyfodol, y tu hwnt i'r cyllid presennol, un o'r pryderon sy'n cael eu mynegi gan y sector yw capio ar daliadau. Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ymrwymo i gapio taliadau a fyddai'n gwneud y mwyaf o'r arian sy'n mynd i ffermydd teuluol bach. Ochr yn ochr â'r materion o ran diffinio beth yw ffermwyr gweithredol—active farmer—byddai rhoi'r gorau i gapio taliadau yn agor y drws i unigolion preifat a chyrff mawr gymryd arian oddi wrth ffermydd teuluol bach a chymunedau gwledig.
Nawr, o 2023 ymlaen, fel rŷch chi'n gwybod, mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn cymryd camau breision i ailddosbarthu'r cymorth ariannol yn decach i ffermwyr, ac mae hyn yn golygu diffiniad cliriach o beth yw ffermwr gweithredol. A all y Gweinidog leddfu pryderon y sector heddiw felly drwy ymrwymo'n benodol i gynnal neu leihau'r cap presennol ar daliadau, a dilyn esiampl y cap newydd sydd yn cael ei argymell gan yr Undeb Ewropeaidd er mwyn rhoi chwarae teg i ffermwyr Cymru?