Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Wel, fel y gallwch ddeall rwy'n siŵr, gan fod y cynllun ffermio cynaliadwy wrthi'n cael ei ddatblygu, mae'n amlwg na allaf ymrwymo i hynny yma yn y Siambr, ond daw sylwadau i law yn rheolaidd ynghylch capio taliadau, a byddaf yn sicr yn edrych ar hynny fel rhan o'r cynllun ffermio cynaliadwy.