Creulondeb at Anifeiliaid

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 17 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 2:55, 17 Tachwedd 2021

Diolch, Weinidog. Rhwng mis Awst a mis Hydref 2021, ymatebodd yr RSPCA i 5,263 o achosion ledled Cymru, sy’n gynnydd o 10.2 y cant ar yr un cyfnod y llynedd. O’r achosion hyn, roedd 463 ohonyn nhw yn sir Abertawe, yn fy rhanbarth i—yr ail uchaf o’r awdurdodau lleol yng Nghymru. Ac yng Nghastell-nedd Port Talbot, hefyd yn fy rhanbarth, ble gwelwyd y bumed lefel uchaf yng Nghymru, roedd 298 o achosion, sy’n gynnydd o 90 achos o’r flwyddyn flaenorol. A yw’r Gweinidog yn cytuno, felly, fod angen gwneud mwy i daclo creulondeb tuag at anifeiliaid yng Ngorllewin De Cymru ac, yn wir, ar draws Cymru? Ac yn sgil cyhoeddi rheoliadau newydd ar les anifeiliaid, pa arian ychwanegol mae’r Llywodraeth wedi’i neilltuo ar gyfer awdurdodau lleol er mwyn eu galluogi i weithredu’r rheoliadau hyn yn effeithiol? Diolch.