Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Diolch. Lansiais ein cynllun lles anifeiliaid ar gyfer Cymru ar 4 Tachwedd, ac mae'n adeiladu ar ein cyflawniadau ers datganoli pwerau lles anifeiliaid yn 2006. Mae'n amlinellu sut y byddwn yn bwrw ymlaen â'r ymrwymiadau lles anifeiliaid yn ein rhaglen lywodraethu, a mesurau eraill i wella lles anifeiliaid ledled Cymru.