Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Ac er fy mod yn cydnabod bod hwn yn fater sydd heb ei ddatganoli wrth gwrs, mae'n rhywbeth sydd, fel i lawer o Aelodau o'r Senedd, bob amser yn amlwg iawn yn fy mhost ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Nawr, gall cynghorau Cymru roi cyfres o gamau ar waith i liniaru effaith tân gwyllt, megis mesurau gwirfoddol neu leol, i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd, gan annog y defnydd o dân gwyllt tawelach neu ddi-sŵn, a rhoi mwy o anogaeth i hysbysebu arddangosiadau swyddogol ar dir sy'n eiddo i'r cyngor. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda'n partneriaid llywodraeth leol ynglŷn â'r camau y gallant eu cymryd?