Ffermwyr sy'n Denantiaid

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 17 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:56, 17 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu'r sector tenantiaid fferm a'r sector perchnogion fferm yn y diwydiant amaethyddol yng Nghymru. Mae cytundebau tenantiaeth yn gontractau y mae landlord a thenant yn ymrwymo iddynt. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio i sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy'n sail i denantiaethau amaethyddol yn deg i'r ddwy ochr.