2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 17 Tachwedd 2021.
8. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i ffermwyr sy'n denantiaid ynghylch sicrwydd deiliadaeth? OQ57181
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu'r sector tenantiaid fferm a'r sector perchnogion fferm yn y diwydiant amaethyddol yng Nghymru. Mae cytundebau tenantiaeth yn gontractau y mae landlord a thenant yn ymrwymo iddynt. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio i sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy'n sail i denantiaethau amaethyddol yn deg i'r ddwy ochr.
Dwi’n falch i glywed hynny, Weinidog, oherwydd, fel gwnaeth Rhun ap Iorwerth awgrymu, mae hanes Cymru yn llawn o ffermwyr yn cael eu gorfodi i adael eu tir. Dwi’n falch i weld y Dirprwy Weinidog, Lee Waters, yma—mae e wedi siarad yn bwerus iawn am deulu ei dad-cu yn cael eu taflu allan o’r Epynt yn 1940. Colli Epynt, colli cymuned gyfan, ac fel roedd Rhun ap Iorwerth yn dweud, colli iaith, colli diwylliant, colli crefydd—colli’r holl oedd yn dda am y gymuned.
Ond nid mater i’r llyfrau hanes yn unig yw hyn. Eleni yng Nghaerdydd ac yn y Rhws, mae’r un peth yn digwydd. Mae’n dorcalonnus clywed am Jenkin Rees, ffarmwr rhwng Radur a Phentre-baen yng ngorllewin Caerdydd, o ffarm Maes y Llech, sy’n dangos hanes cyfoethog Caerdydd, yn cael ei orfodi i adael y ffarm mae wedi bod arni ers degawdau. Ac yna Model Farm yn y Rhws—teulu oedd wedi cael eu gorfodi i adael Epynt, ond yr un peth yn digwydd iddyn nhw eto. Er eu bod nhw wedi bod yno am bedair cenhedlaeth, mae’r un peth yn digwydd iddyn nhw eto. Maen nhw’n cael eu gorfodi i adael Model Farm, gyda Legal and General, cwmni mawr rhyngwladol, yn eu gorfodi, y teulu Cymreig a Chymraeg yma, i adael eu ffarm. Pa gamau ychwanegol allwch chi eu cymryd, fel Gweinidog ac fel Llywodraeth, i gynorthwyo’r ffermwyr tenant yma i aros ar y tir a gwneud yr hyn y mae’r tir yma wedi bod yn ei wneud ers canrifoedd? Diolch yn fawr.
Diolch. Wel, yn ôl yn 2019 rwy'n credu, fe wnaethom ymgynghori ynghylch ffermydd tenant, a'r tenantiaid arnynt wrth gwrs, ac roeddem eisiau edrych ar annog pobl i osod ffermydd yn fwy hirdymor. Roedd yr ymatebwyr yn gefnogol iawn i'r nod, er fy mod yn credu ei bod yn deg dweud bod yna sylw hefyd i'r ffaith na fyddai o bosibl yn arwain at yr effaith a fwriadwyd, fel y nodoch chi.
Mae gennym grŵp diwydiant ar ddiwygio tenantiaeth a arweinir gan DEFRA y gwn fod fy swyddogion yn gweithio'n agos iawn ag ef i edrych ar ba fecanweithiau y gallwn eu cyflwyno i gefnogi ein ffermwyr sy'n denantiaid. Rydym hefyd wedi cael pwerau newydd ar gyfer datrys anghydfodau. Fe'u cyflwynwyd yn Neddf Amaethyddiaeth y DU 2020, ac rwy'n sicr yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud yn ein Bil amaethyddiaeth ein hunain y byddaf yn ei gyflwyno y flwyddyn nesaf.
Weinidog, yn gyntaf hoffwn ddiolch i chi am gyflwyno'r cwestiwn hwn, oherwydd pan oedd y portffolio gennyf a phan siaradais â ffermwyr a oedd yn denantiaid, roedd yn drist iawn. Nawr, mae bron i 30 y cant o dir amaethyddol Cymru yn dir ffermydd tenant, gyda thyddynnod o'r fath yn gam hollbwysig i ffermwyr ifanc wrth iddynt gamu i'r diwydiant hanfodol hwn. Ac eto, mae gallu tenantiaid i gynllunio'n hirdymor ar gyfer eu teuluoedd a gweithredu arferion cynaliadwy wedi ei danseilio gan y rheolau. Mae'r Gymdeithas Ffermwyr Tenant wedi dweud bod ffermwyr yn cael eu llesteirio rhag ymgymryd ag arferion cynaliadwy oherwydd y cyfleoedd tymor byr y mae landlordiaid yn eu rhoi iddynt. Yn y rhan fwyaf o achosion, gwyddom nad yw ffermwyr sy'n denantiaid yn gallu plannu coed oherwydd cymalau cyfyngol yn eu cytundebau. Canfu strategaeth 'Growing Together' NFU Cymru fod perygl y bydd polisïau sy'n gyrru gweithgarwch plannu coed lle mae cyllid yn fwy na'r lefelau cymorth sydd ar gael ar gyfer tir amaethyddol yn effeithio ar denantiaethau tymor byr, a gall hyn greu risg y bydd landlord yn eu terfynu. Felly, o ystyried y sector hynod allweddol hwn, unwaith eto, beth y gallwch ei wneud i ddiogelu yn erbyn yr arferion negyddol y mae ein ffermwyr sy'n denantiaid yn eu profi?
Rwy'n gyfarwydd â rhai o'r materion y cyfeiria'r Aelod atynt a chredaf fod bod yn ffermwyr tenant yn aml yn gam i mewn i'r sector i'n ffermwyr ifanc, ac rydym am annog hynny. Byddwch wedi clywed fy ateb yn gynharach mewn perthynas â'r gwaith rydym wedi'i wneud gyda'r grŵp diwydiant ar ddiwygio tenantiaeth, a arweinir gan Lywodraeth y DU. Fel y dywedaf, ceir rhai pwerau yn Neddf Amaethyddiaeth y DU a gyflwynwyd y llynedd, a byddaf yn sicr yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud. Rwyf wedi bod yn gweithio gyda chymdeithas y ffermwyr tenant yma yng Nghymru i gael eu barn, ac yn amlwg, wrth inni fynd drwy broses y Bil amaethyddol, edrychaf ymlaen at weld pa bwerau y gallwn eu cyflwyno yn y Bil hwnnw er mwyn cefnogi'r rhan bwysig hon o'r sector amaethyddol.