Ffermwyr a Newid Hinsawdd

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 17 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:43, 17 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â chydweithwyr i drafod materion trawsbynciol, gan gynnwys y mater hwn. Ac rwy'n credu bod COP26 wedi dangos sut y mae gan ffermwyr rôl hanfodol i fynd i'r afael â newid hinsawdd drwy leihau allyriadau ar y fferm mewn amryw o ffyrdd, gan gynnwys gwella effeithlonrwydd cynhyrchiant da byw a chnydau, rheoli maethynnau, a chynyddu cynaliadwyedd technoleg a seilwaith ffermydd.