Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Diolch yn fawr iawn am eich ateb cyntaf, Weinidog. Yn ystod y misoedd diwethaf, rwyf wedi cael y pleser, gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, o ymweld â dwy fferm wahanol iawn yn fy rhanbarth i, Gogledd Cymru—fferm Llyr Jones, Derwydd, ar ffin Conwy-sir Ddinbych, ac ystâd Rhug ger Corwen, y byddwch yn gyfarwydd â hi hefyd, rwy'n siŵr. Gan barhau i sicrhau bod gennym fwyd ar ein byrddau i'w fwyta, mae'r ddwy hefyd wedi arallgyfeirio i gynhyrchu ynni gwyrdd, sy'n helpu i redeg eu ffermydd. Mae'r rhain, fel y byddech yn cytuno rwy'n siŵr, yn enghreifftiau gwych o ffermwyr yma yng Nghymru yn arwain y frwydr yn erbyn yr argyfwng hinsawdd presennol, yn ogystal â darparu ynni adnewyddadwy i'w busnesau, ac ar y grid i bawb arall allu elwa arno hefyd. Felly, Weinidog, pa gymorth a chymhellion pellach y gallwch eu darparu drwy Lywodraeth Cymru i ffermydd fel Derwydd a Rhug i helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur?