Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Diolch. Mae hyn yn y rhaglen lywodraethu. Roedd yn cynnwys yr ymrwymiad i wahardd defnyddio maglau yng Nghymru. Fel y dywedais, rwy'n edrych ar ei gyflwyno yn y Bil amaethyddiaeth, sydd yn ein rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y flwyddyn gyntaf. Rwy'n gyndyn i roi mis; rwy'n tueddu i ddefnyddio tymhorau pan ddywedaf fod rhywbeth ar ei ffordd, ond rwy'n sicr yn gobeithio ei gyflwyno ddechrau'r haf y flwyddyn nesaf.