Maglau a Thrapiau Glud

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 17 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 2:49, 17 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch iawn o glywed bod gennych ymrwymiad parhaus, oherwydd ni chafodd ei grybwyll yn y rhaglen lywodraethu wreiddiol. Felly, mae hynny'n newyddion da iawn. Pan fyddwn yn sôn am ddefnyddio maglau a thrapiau glud, rydym yn sôn am ddyfeisiau creulon sy'n lladd yn ddiwahân. Maent yn dal adar ac anifeiliaid, maent yn eu gadael i ddioddef yn greulon, ac i farw'n araf a phoenus iawn. Mae 73 y cant o ddigwyddiadau a welir gan yr RSPCA mewn perthynas â thrapiau glud yn gysylltiedig â rhywogaethau nad ydynt yn dargedau, fel anifeiliaid anwes ac anifeiliaid gwyllt. Credaf mai gorau po gynharaf y gallwn roi diwedd ar yr arferion hynod greulon hyn—ac mae rhai o'r maglau i'w gweld yn gyffredin o amgylch mannau lle cynhelir digwyddiadau saethu ffesantod a saethu adar hela—. Felly, mae'n rhyddhad imi glywed eich bod yn bwriadu cyflwyno'r gwaharddiad, ond hoffwn glywed braslun o'r amserlen.