Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Diolch. Rydym yn ymwybodol o nifer fach o brosiectau creu coetir ar dir a brynwyd gan fuddsoddwyr. Nid yw'r prosiectau hyn wedi'u plannu, felly nid yw'n bosibl asesu eu heffaith eto. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y pryderon ac rydym am i ffermwyr chwarae rhan ganolog yn y gwaith o greu coetiroedd.